Lansio porthol #POWiPL i helpu i gynyddu nifer y menywod mewn bywyd cyhoeddus yng Nghymru
02 Hydref 2013
Heddiw (2 Hydref), bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn lansio porthol cynghori digidol siop un stop, y bwriedir iddo gynyddu nifer y menywod mewn swyddi cyhoeddus yng Nghymru.
Bydd y Llywydd yn lansio’r porthol Menywod Mewn Bywyd Cyhoeddus mewn partneriaeth â’r prosiect Merched yn Gwneud Gwahaniaeth.
Bydd yn darparu gwybodaeth am sut i gymryd rhan mewn bywyd cyhoeddus, y swyddi gwag sydd ar gael a chyfleoedd hyfforddi, a thystiolaeth gan fenywod ysbrydoledig sydd eisoes wedi llwyddo mewn swyddi cyhoeddus.
Meddai’r Llywydd, Rosemary Butler AC: ‘Pan edrychwch ar y ffigurau ynghylch nifer y menywod a geir mewn bywyd cyhoeddus yng Nghymru, mae’n eich sobri.
‘Dyna pam rwyf wedi gwneud y mater hwn yn un o’m prif flaenoriaethau fel Llywydd, a dyna pam rwyf wedi gofyn am farn menywod ledled Cymru ynghylch sut y gallwn fynd i’r afael â’r rhwystrau sy’n bodoli.
‘Un o’r prif awgrymiadau oedd i sefydlu porthol ar y we ac rydym yn cyflawni’r ymrwymiad hwnnw heddiw.
‘Hoffwn ddiolch i’r holl bartneriaid yr ydym wedi gweithio gyda hwy i sicrhau bod #POWiPL yn gymaint o lwyddiant, gan gynnwys y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, y Sefydliad Materion Cymreig, y Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod a’r Gymdeithas Diwygio Etholiadol.
‘Ond, yn arbennig, hoffwn ddiolch i Merched yn Gwneud Gwahaniaeth, sydd wedi cyfrannu at y broses o greu’r porthol POWiPL.’
Mae’r porthol yn un o ganlyniadau ‘Ymgyrch Menywod Mewn Bywyd Cyhoeddus’ y Llywydd #POWiPL.
Fel rhan o’r ymgyrch, enwyd y Llywydd yn Aelod y Flwyddyn ymysg y Seneddau a Chynulliadau Datganoledig yn noson wobrwyo flynyddol Menywod Mewn Bywyd Cyhoeddus yn Llundain, am ei gwaith o roi’r rhwystrau i fenywod gael swyddi cyhoeddus ar frig yr agenda wleidyddol.
Lansiwyd yr ymgyrch dros 18 mis yn ôl, gyda’r bwriad o leihau’r rhwystrau y mae menywod yn eu hwynebu mewn bywyd cyhoeddus.
Shami Chakrabarti yw cyfarwyddwr Liberty, y grwp ymgyrchu dros hawliau sifil, a hi wnaeth un o’r prif areithiau ynghylch y rhwystrau y mae menywod yn eu hwynebu mewn sesiwn yn y Pierhead ym mis Gorffennaf. Dyweodd: ‘Mae’r Cynulliad wedi rhoi hwb o ran y gobeithion ynghylch cynrychiolaeth gan fenywod.
‘Fodd bynnag, o weld pa mor gyflym y gallu un cam ymlaen droi yn ddau gam am yn ôl, ni allwn fforddio llaesu dwylo. Felly, beth am beidio â derbyn y sefyllfa fel y mae a bod yn aflonydd a diamynedd ynghylch sicrhau cydraddoldeb rhwng y rhywiau.’
Mae’r Farwnes Susan Greenfield yn wyddonydd blaenllaw a gymerodd ran hefyd mewn sesiwn #POWiPL eleni, ynghylch y rhwystrau y mae menywod ym myd gwyddoniaeth yn eu hwynebu. Dywedodd: ‘Credaf fod angen inni i gyd gael mentor, a gallwn oll geisio sicrhau bod menywod yn helpu menywod eraill, yn hytrach na thynnu’r ysgol oddi tanynt.
‘Dyna pam rwyf yn cefnogi ymgyrch Menywod Mewn Bywyd Cyhoeddus y Llywydd a’r porthol ar y we.’
Gellir defnyddio’r porthol drwy wefan Menywod Mewn Bywyd Cyhoeddus neu drwy’r sianel drydaru @MenywodCymru.
Gallwch wylio fideo esboniadol yma.
Caiff ei lansio rhwng 11.00 a 12.00 mewn cynhadledd yn Siambr Hywel, yn y Cynulliad, a drefnwyd mewn partneriaeth ag uned Cyfleoedd Ymchwil Rhyweddol Prifysgol Caerdydd.
Bydd gweddill y gynhadledd yn cynnwys areithiau pwysig ar y rhwystrau y mae menywod yn eu hwynebu mewn sawl maes.