Lansio System Ddeisebu newydd

Cyhoeddwyd 13/06/2007   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Lansio System Ddeisebu newydd

Mae’r Cynulliad Cenedlaethol yn cyflwyno system ddeisebu newydd. Am y tro cyntaf, bydd yn ofynnol i’r Cynulliad weithredu ar unrhyw ddeiseb a gyflwynir gan y cyhoedd cyhyd â bod yr hyn a gynigir yn y ddeiseb o fewn ei bwerau. Gall pobl o bob oed gyflwyno deisebau, ond rhaid i’r maes polisi fod o fewn cyfrifoldebau’r Cynulliad Cenedlaethol. Lansiwyd ymgynghoriad cynhwysfawr i ofyn am syniadau ynghylch sut y gellir sicrhau bod y drefn newydd hon yn llwyddo. Y nod yw canfod sut yr hoffai’r cyhoedd gyflwyno deisebau a pha wybodaeth a chyngor fydd eu hangen ar ddarpar ddeisebwyr. Gellir e-bostio sylwadau at: deiseb@cymru.gsi.gov.uk neu eu hanfon at: Y Swyddfa Gyflwyno
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
CF99 1NA Dywedodd y Llywydd, yr Arglwydd Dafydd Elis Thomas: “I mi, mae’r ffaith bod y cyhoedd bellach yn medru deisebu’r Cynulliad yn ddatblygiad cyffrous iawn. Rwy’n awyddus i’r system fod mor effeithiol ac agored â phosibl gan sicrhau ei bod  yn ymateb i anghenion y cyhoedd. Byddwn yn croesawu unrhyw sylwadau ynghylch sut gallwn wneud i’r drefn newydd hon weithio ac rwy’n edrych ymlaen at dderbyn y deisebau.”