Lefelau llawdriniaethau undydd yng Nghymru’n dal yn rhy isel, yn ôl adroddiad newydd y Pwyllgor Archwilio

Cyhoeddwyd 14/03/2007   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Lefelau llawdriniaethau undydd yng Nghymru’n dal yn rhy isel, yn ôl adroddiad newydd y Pwyllgor Archwilio

Yn ôl adroddiad archwilio newydd, mae angen cynnydd sylweddol mewn llawdriniaethau undydd yng Nghymru, ond ni fydd gwelliant yn hyn o beth nes bydd Llywodraeth y Cynulliad, Ymddiriedolaethau’r GIG a’r byrddau iechyd lleol yn mynd i’r afael â’r hyn sy’n achosi perfformiad gwael. Heddiw, mae Pwyllgor Archwilio’r Cynulliad yn cyhoeddi adroddiad ar ddefnyddio llawdriniaeth undydd yng Nghymru’n well . Darganfu’r Pwyllgor fod lefelau llawdriniaethau undydd yng Nghymru’n is nag yn y rhan fwyaf o rannau eraill o’r DU, a bod cyrraedd targed  Cynllun Oes  Llywodraeth y Cynulliad, sef y dylai 85 y cant o ofal llawfeddygol dewisol olygu aros am lai na 48 awr mewn ysbyty, yn annhebygol iawn oni bai bod lefel y llawdriniaethau undydd yn codi’n sylweddol. Isel yw lefel llawdriniaethau undydd yng Nghymru ac, ar wahân i faes llawdriniaeth codi pilennau, prin yw’r gwella sydd wedi bod dros bum mlynedd, er mai’r drefn ragosodedig ar gyfer pob llawdriniaeth ddewisol yw ei chwblhau fel llawdriniaeth undydd lle bynnag y bo hynny’n briodol. Clustnododd y Pwyllgor nifer o rwystrau y mae angen eu symud, gan gynnwys diffyg eglurder wrth ddiffinio llawdriniaeth undydd, yr angen am gyfleusterau llawdriniaeth undydd sydd yn well ac yn newydd, a’r angen i ddarbwyllo cleifion mai’r dewis undydd sydd yn addas ar gyfer eu triniaeth. Mae’r adroddiad yn gwneud nifer o argymhellion, gan gynnwys rhoi gwybodaeth gywir ac amserol i gleifion ynghylch manteision llawdriniaeth undydd a lleihau’r niferoedd sy’n canslo’u triniaeth. Mae’r adroddiad hefyd yn argymell y dylai’r byrddau iechyd lleol gymryd mwy o ran fel comisiynwyr wrth hybu llawdriniaethau undydd ac y dylai clinigwyr dderbyn hyfforddiant er mwyn cynyddu nifer y llawdriniaethau undydd y gallant eu cyflawni. Dywedodd Janet Davies AC, Cadeirydd y Pwyllgor : “Mae cynyddu hyd yr eithaf y nifer sy’n derbyn llawdriniaeth undydd o fantais sylweddol wrth ofalu am y claf yn ogystal â bod o fudd i’r GIG yng Nghymru gan fod adnoddau’n cael eu defnyddio’n fwy effeithlon. Yn gyffredinol, ein casgliad oedd bod lefelau llawdriniaeth undydd yn dal yn rhy isel yng Nghymru a bod rhaid troi’r ffaith fod Llywodraeth y Cynulliad yn sylweddoli mwy a mwy fod llawdriniaeth undydd yn bwysig yn weithredu pendant i fynd i’r afael â’r prif rwystrau i’r ddarpariaeth llawdriniaethau undydd a sicrhau gwelliannau sylweddol yn y maes.”