Llefarydd Ty’r Cyffredin i ystyried ymrwymiad y Cynulliad i fod yn agored a thryloyw
25 Medi 2009
Ar Fedi 30, bydd Llefaryff Ty'r Cyffredin, y Gwir Anrhydeddus John Bercow AS, yn ymweld a Chynulliad Cenedlaethol Cymru.
Yn ystod ei ymweliad, bydd yn cyfarfod â’r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas AC, Llywydd y Cynulliad, i ddysgu mwy am waith Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Bydd yn edrych ar yr hyn y mae’r Cynulliad Cenedlaethol yn ei wneud i annog mwy o bobl i gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd drwy ei system e-ddeisebau a Senedd TV.
Yn wahanol i San Steffan, mae gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru bwyllgor trawsbleidiol penodol o Aelodau Cynulliad sy’n edrych ar bob deiseb sy’n dod i law ac yn penderfynu a ellir ei symud ymlaen drwy ein system ddeddfwriaethol.
Ers cyflwyno’r system ym mis Mai 2007, mae’r Cynulliad Cenedlaethol wedi cael bron 200 deiseb.
Bydd y Llefarydd hefyd yn clywed am newidiadau arfaethedig i’r system ar gyfer rhoi cefnogaeth ariannol i Aelodau’r Cynulliad, yn unol ag argymhellion adroddiad y Panel Annibynnol a gomisiynwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol.
Dywedodd yr Arglwydd Elis-Thomas: “Rydym yn hapus iawn i groesawu Llefarydd Ty’r Cyffredin i’r Senedd.”
“Mae’n gyfle gwych i egluro’r yr hyn yr ydym wedi’i gyflawni yma yn y Cynulliad Cenedlaethol, a’n huchelgeisiau ar gyfer y dyfodol, drwy fod yn sefydliad sydd mor agored a thryloyw â phosibl ac annog pobl i gymryd rhan yn y broses wleidyddol.
“Yn negawd cyntaf datganoli, rydym wedi canolbwyntio ar wneud pethau mewn ffordd wahanol i San Steffan, felly gall y Llefarydd gael profiad uniongyrchol o gorff seneddol sy’n gweithio mewn ffordd sy’n hollol wahanol i’r system y mae’n gyfarwydd â hi, o’n defnydd o dechnoleg i’r ffordd yr ydym yn ymgymryd â’n gwaith. Rydym wedi symud ymlaen yn gyflym i ddiwygio’r gefnogaeth ariannol a ddarperir i Aelodau’r Cynulliad, ac rwy’n siwr y bydd y Llefarydd yn awyddus i glywed am ein profiadau yn hyn o beth.”
Bydd y Llefarydd hefyd yn cyfarfod â phlant o Ysgol Uwchradd Caereinion a fydd yn y Cynulliad ar ymweliad addysgol a hefyd yn ymweld ag Ysgol Gyfun Glantaf yng Nghaerdydd.