Llefarydd Ty’r Cyffredin yn canmol system e-ddeisebau a system dreuliau’r Cynulliad

Cyhoeddwyd 01/10/2009   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Llefarydd Ty’r Cyffredin yn canmol system e-ddeisebau a system dreuliau’r Cynulliad

01 Hydref 2009

Wrth iddo ymweld â Chynulliad Cenedlaethol Cymru heddiw (30 Medi) i gasglu ffeithiau, rhoddwyd canmoliaeth i system e-ddeisebau’r Cynulliad gan Lefarydd Ty’r Cyffredin, y Gwir Anrhydeddus John Bercow AS.

Dywedodd hefyd fod system y Cynulliad Cenedlaethol ar gyfer rhoi cymorth ariannol i’r Aelodau yn ddarbodus, yn agored ac yn dryloyw.