Llysgennad o America i annerch un o Bwyllgorau’r Cynulliad

Cyhoeddwyd 28/02/2007   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Llysgennad o America i annerch un o Bwyllgorau’r Cynulliad

Bydd Llysgennad yr Unol Daleithiau i Brydain, Ei Ardderchowgrwydd Robert Holmes Tuttle, yn annerch Pwyllgor Materion Ewropeaidd ac Allanol Cynulliad Cenedlaethol Cymru yng nghyfarfod nesaf y pwyllgor, a gynhelir ddydd Mercher 28 Chwefror. Bydd Mr Holmes Tuttle yn rhoi cyflwyniad ar y berthynas rhwng Cymru ac Unol Daleithiau America. Hefyd, caiff y pwyllgor gyflwyniad ar strategaeth cyfathrebu a chysylltiadau sefydliadol yr Undeb Ewropeaidd gan un o Gomisiynwyr y Comisiwn Ewropeaidd, Margot Wallström, a fydd yn annerch y pwyllgor drwy gyfrwng cyfleusterau fideo-gynadledda. Hefyd ar yr agenda y mae adroddiad Prif Weinidog Cymru ar y datblygiadau a wnaed ers y cyfarfod diwethaf; gan gynnwys y cynllun datblygu gwledig a thrafodaeth ar adroddiad blynyddol y pwyllgor a phapur y pwyllgor i’w gyflwyno i’r Trydydd Cynulliad. Meddai cadeirydd y pwyllgor, Sandy Mewies AC, ‘Yr wyf wrth fy modd bod Mr Holmes Tuttle wedi derbyn gwahoddiad y pwyllgor i drafod perthynas America â Chymru ac edrychaf ymlaen at ei groesawu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.’ Cynhelir y cyfarfod am 9.30am ddydd Mercher 28 Chwefror yn Ystafell Bwyllgora 3, y Senedd, Bae Caerdydd. Manylion llawn ac agenda