Llywodraeth Cymru yn llusgo traed ynghylch y strategaeth gweithgynhyrchu

Cyhoeddwyd 05/02/2010   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Llywodraeth Cymru yn llusgo traed ynghylch y strategaeth gweithgynhyrchu

Yn ôl adroddiad gan Bwyllgor Menter a Dysgu Cynulliad Cenedlaethol Cymru, mae angen arweiniad clir ar y sector gweithgynhyrchu yng Nghymru o ran sut y bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio ei adnoddau yn y dyfodol .

Mae’r Pwyllgor yn pryderu bod Llywodraeth Cymru dal heb gyhoeddi ei strategaeth ar gyfer adfywio’r sector hwn, sydd eisoes yn dioddef, er gwaetha’r ffaith i’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth gyhoeddi’r drafft ym mis Hydref 2008.

Ers hynny, mae’r dirwasgiad a chostau gweithgynhyrchu rhatach o dramor, wedi golygu bod nifer o gwmnïoedd megis Bosch, Hoover, Indesit ac Alwminiwm Môn wedi diswyddo cannoedd o staff yn ystod y flwyddyn diwethaf.

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan CBI Cymru a NESTA am ddyfodol gweithgynhyrchu yng Nghymru ac mae’n argymell symud tuag at ddiwydiannau gweithgynhyrchu mwy cynaliadwy â gwerthoedd uwch a charbon isel yn y dyfodol, yn hytrach na cheisio cynnal hen ddiwydiannau fel ateb tymor byr.

Dywedodd Gareth Jones AC , Cadeirydd y Pwyllgor: Mae’r Pwyllgor yn deall safbwynt Llywodraeth Cymru bod yr hinsawdd economaidd yn newid ac mae hynny wedi ei gwneud yn anodd i gynllunio unrhyw fath o strategaeth ar gyfer y diwydiant gweithgynhyrchu”.

Fodd bynnag, mae bron i bumed ran o gynnyrch mewnwladol crynswth Cymru yn dod o weithgynhyrchu. Felly, mae angen i Lywodraeth Cymru rhoi arwydd clir i’r sector o ran sut y gall greu a chynnal amgylchedd lle gall gweithgynhyrchu ddatblygu, arloesi a thyfu yng Nghymru.

Golyga hyn bod angen sicrhau bod gan y sector y sgiliau, egni, trafnidiaeth a’r arian sydd eu hangen arno. Yn ategol at hynny, mae angen i ni gael strategaeth sy’n ymgorffori ymrwymiad hirdymor i greu marchnadoedd cynaliadawy, fel bod modd i gwmnïoedd fod yn ddigon hyderus i fuddsoddi”.

Mae’r canlynol ymysg deg o argymhellion y Pwyllgor:

  • Sicrwydd gan Lywodraeth Cymru bod gweithgynhyrchwyr mwyaf Cymru yn chwarae rhan blaenllaw wrth gynllunio polisi yn y dyfodol.

  • Dylai Llywodraeth Cymru fod ar flaen y gad wrth ddatblygu’r sector ‘gweithgynhyrchu gwyrdd’ a phrif-ffrydio’r economi werdd yn brif ffrwd yn hytrach nag yn ychwanegiad i’w polisi economaidd ehangach.

  • Canolbwyntia ar ansawdd yn hytrach na niferoedd uchel gan annog cwmnïoedd sydd â’r potential i dyfu’n sylweddol yn hytrach na sefydlu nifer o gwmnïoedd newydd.

  • Dylai’r strategaeth gweithgynhyrchu fod yn seiliedig ar ddatblygu ffynonellau o egni cynaliadawy er mwyn sicrhau bod gweithgynhyrchwyr Cymru yn gystadleuol yn y tymor hir.

  • Targedau wedi’u hanelu at leihau’r cyfran o gynnyrch sy’n cael ei gludo ar yr ffyrdd, drwy annog defnydd ehangach o rheilffyrdd cludo nwyddau.