Llywydd y Cynulliad i hyrwyddo ymgyrch Pleidleisiwch 2011 ymhellach

Cyhoeddwyd 14/12/2010   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

14 Rhagfyr 2010

Llywydd y Cynulliad i hyrwyddo ymgyrch Pleidleisiwch 2011 ymhellach

Bydd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn Aberdâr ddydd Iau (16 Rhagfyr) i hyrwyddo neges ymgyrch Pleidleisiwch 2011 ymhlith pobl Cymru.

Cynhelir yr ymweliad drannoeth y diwrnod y disgwyliwyd i’r Cyfrin Gyngor gymeradwyo’r Gorchymyn sy’n pennu’r dyddiad a’r cwestiwn ar gyfer y refferendwm ar bwerau’r Cynulliad yn y dyfodol.

Dyma’r ail ran o daith genedlaethol y Llywydd drwy ogledd, canolbarth a de Cymru yn ystod y misoedd nesaf i geisio annog pobl i bleidleisio’r flwyddyn nesaf.

Mae’r daith yn rhan o ymgyrch ehangach gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru i gyflwyno gwybodaeth wrthrychol ac amhleidiol i bleidleiswyr Cymru am y tair pleidlais a fydd yn eu hwynebu yn y blwch pleidleisio’r flwyddyn nesaf.

Yn 2011:

- Cynhelir refferendwm ar 3 Mawrth i ofyn a ddylai’r Cynulliad Cenedlaethol gael rhagor o bwerau deddfu;

- Bydd etholiad ar 5 Mai i ethol Aelodau’r Cynulliad i’n cynrychioli yn y Senedd ym Mae Caerdydd.

- Ar yr un diwrnod ag etholiad y Cynulliad, gofynnir i ni a ddylem ethol ein Haelodau Seneddol yn San Steffan drwy system bleidleisio wahanol.

Bydd yr ymgyrch yn canolbwyntio’n benodol ar annog y rhai a fydd yn pleidleisio am y tro cyntaf, a’r rhai nad ydynt yn pleidleisio fel arfer, i fynd i’r blwch pleidleisio ddwywaith, ar gyfer y tair pleidlais hyn, y flwyddyn nesaf.

Dyna pam y bydd y Llywydd yn cyfarfod â disgyblion chweched dosbarth Ysgol Gyfun Rhydywaun i sôn am y modd y gall y Cynulliad Cenedlaethol, a gwleidyddion yn gyffredinol, ymgysylltu â phobl ifanc.

Dywedodd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas AC, y Llywydd: “Bydd y flwyddyn nesaf yn flwyddyn hynod bwysig i ni i gyd.

“Bydd angen i ni ddewis nid yn unig pwy sy’n ein cynrychioli ni yn y Senedd ond hefyd a ddylai’r cynrychiolwyr etholedig hynny gael rhagor o bwerau i ddeddfu ar gyfer Cymru.

“Dyma pam rwy’n ceisio ymweld â chynifer o rannau o Gymru â phosibl i siarad â phobl fel disgyblion chweched dosbarth Ysgol Gyfun Rhydywaun ac ymgysylltu â nhw.

“Neges syml iawn sydd gennyf; eich Cynulliad Cenedlaethol chi ydyw, felly ewch ati i ddweud eich dweud.”

Bydd y bobl ifanc o Ysgol Gyfun Rhydywaun yn cyfarfod â’r Arglwydd Elis-Thomas ar fws y Cynulliad Cenedlaethol, cyfleuster rhyngweithiol sy’n caniatáu i bobl roi sylwadau am waith y Cynulliad a gadael negeseuon i’w Haelodau lleol.

I gael rhagor o fanylion am y refferendwm ac ymgyrch Pleidleisiwch 2011 y Cynulliad, ewch i Pleidleisiwch 2011.