Llywydd y Cynulliad i lywyddu seminar i drafod merched mewn bywyd cyhoeddus fel rhan o ymweliad â Chanolbarth a Gorllewin Cymru
11 Mai 2012
Bydd Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Rosemary Butler AC, yn llywyddu cynhadledd, yn Llandyfái, Sir Benfro, i annog rhagor o ferched i gymryd rhan mewn bywyd cyhoeddus.
Cynhelir seminar ‘Merched mewn Bywyd Cyhoeddus’ yng ngwesty Lamphey Court rhwng 12.30 a 14.15 ddydd Gwener, 18 Mai.
Mae’r rhan o gyfres o seminarau sy’n cael eu cynnal ar hyd a lled Cymru, a fydd yn diweddu mewn cynhadledd genedlaethol yng Nghaerdydd ym mis Tachwedd.
“Yn y Cynulliad Cenedlaethol, mae gennym record dda o ran nifer y merched sy’n Aelodau Cynulliad,” meddai Mrs Butler.
“Mae gennym fwy o ferched nag unrhyw senedd arall yn y DU, ac ar un adeg, roedd gennym fwy o ferched na dynion yn Aelodau.
“Mae’n glir, fodd bynnag, nad yw merched wedi’u cynrychioli’n ddigonol mewn bywyd cyhoeddus yng Nghymru, p’un ai ar lefel y cynghorau lleol ynteu ar lefel uchaf ein cwmnïau mwyaf.
“Dyna pam rwyf wedi gosod cynyddu cyfranogiad fel un o fy mhrif amcanion fel Llywydd, a pham mae’r Cynulliad yn trefnu nifer o seminarau o amgylch Cymru, gan gynnwys hon yn Llandyfái.
“Nid wyf yn dweud bod merched yn well na dynion, dim ond yn wahanol, a gallwn gynnig safbwynt gwahanol i fywyd cyhoeddus.”
Yn ystod ei hymweliad â Chanolbarth a Gorllewin Cymru, bydd y Llywydd hefyd yn ymweld â Phrosiect Monkton Priory, sy’n ceisio helpu pobl ifanc sy’n byw ar safle’r Sipsiwn - Teithwyr i barhau â’u haddysg uwchradd.
Bydd Mrs Butler hefyd yn cyfarfod â phobl ifanc o Goleg Sir Benfro ac yn mynd i gyfarfod o gyngor y coleg.
Bydd Bws y Cynulliad hefyd yng Ngholeg Sir Benfro rhwng 12.00 a 17.00 i roi cyfle i’r cyhoedd alw heibio a nodi’u sylwadau ar unrhyw fater sydd gerbron y Cynulliad neu unrhyw fater y teimlent y dylai fod gerbron y Cynulliad.