Llywydd y Cynulliad yn cyhoeddi’r neges ynglŷn â “chymryd rhan” i fenywod yn y Gogledd
14 Mehefin 2012
Bydd Rosemary Butler AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn croesawu menywod ledled Gogledd Cymru i ‘Seminar Menywod mewn Bywyd Cyhoeddus’ yng Nghaernarfon, ar 21 Mehefin.
Mae’r digwyddiad yn rhan o gyfres o seminarau a gynhelir drwy Gymru, ac a drefnwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol, i geisio annog rhagor o fenywod i gymryd rhan mewn bywyd cyhoeddus.
Cynhelir y seminar yn Galeri, Caernarfon, rhwng 12.30 a 14.30, a chaiff y panel ei gadeirio gan Mari Emlyn, Cyfarwyddwr Artistig Galeri.
Aelodau eraill y panel yw Margaret Lloyd Jones, Cadeirydd Pwyllgor Ffederasiwn Sefydliad y Merched yng Nghymru, Yr Athro Helen James, Dirprwy Is-ganghellor Prifysgol Glyndŵr, Wrecsam, a Nina Sardar, sefydlydd y cwmni rhwydweithio busnes yng Ngogledd Cymru, Free2Network.
Dywedodd y Llywydd cyn y digwyddiad: “Drwy gydol fy nghyfnod fel cynghorydd lleol yng Nghasnewydd, roedd canran y menywod yn siambr y cyngor rhwng oddeutu 10 ac 20 y cant o gyfanswm aelodau’r cyngor, ac nid yw hynny’n cynrychioli’r boblogaeth.
“Rydym wedi llwyddo i wneud rhywfaint yn well na hynny yn y Cynulliad gyda 41.6 y cant o’r Aelodau’n fenywod - ac ar un adeg, ychydig flynyddoedd yn ôl, roedd 51.6 y cant o Aelodau’r Cynulliad yn fenywod. Roedd hon yn record na welwyd mo’i thebyg drwy’r byd.
“Yn y blynyddoedd diweddar, fodd bynnag, mae’r pleidiau gwleidyddol wedi cilio rhywfaint o’r safleoedd cadarn a oedd ganddynt o ran cydbwysedd rhwng y rhywiau. Mae’n debyg bod nifer o resymau dros hyn, gan gynnwys adlach barhaus yn erbyn camau cadarnhaol i hybu ymgeiswyr benywaidd a’r ffaith bod y genhedlaeth gyntaf o wleidyddion benywaidd, ar ôl datganoli, wedi ymddeol.
“Mae’n amlwg felly na ddylem laesu dwylo, a bod angen gwneud llawer rhagor er mwyn annog mwy o fenywod, a menywod ifanc yn benodol, i ymroi, ac i ymgysylltu â’n gwaith er mwyn cael gwir ddylanwad ar lunio polisi yng Nghymru.
“Dyna pam y trefnwyd y gyfres hon o seminarau drwy Gymru, er mwyn annog rhagor o fenywod i gymryd rhan, a gobeithiaf weld cynifer o fenywod o Ogledd Cymru â phosibl yn dod i’r seminar yng Nghaernarfon.”
Dylai unrhyw aelodau o’r cyhoedd a fyddai’n hoffi mynd i’r digwyddiad hwn gofrestru eu diddordeb drwy gysylltu â llinell archebu’r Cynulliad: anfonwch e-bost at archebu@cymru.gov.uk neu ffoniwch 0845 0105500.