Llywydd y Cynulliad yn edrych ymlaen at gydweithio â'r Ysgrifennydd Gwladol er mwyn cyflawni dros Gymru

Cyhoeddwyd 11/05/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 11/05/2015

Y Fonesig Rosemary Butler AC

"Rwy'n croesawu ymrwymiad y Prif Weinidog i gyflwyno camau datganoli pellach i Gymru yn dilyn yr Etholiad Cyffredinol a gynhaliwyd ddydd Iau.

"Mae'n hanfodol bod llais y Cynulliad yn cael ei glywed yn glir yn y trafodaethau a gaiff eu cynnal dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf.

"Byddaf yn ceisio cwrdd â'r Ysgrifennydd Gwladol cyn gynted ag y bo modd.

"Er fy mod yn croesawu'r awgrym y bydd y Llywodraeth newydd yn gweithredu'n gyflym, rwyf am sicrhau ei bod hefyd yn gweithredu'n gywir. Rhaid bod yna gyfleoedd i graffu ar unrhyw gynigion newydd ac i ystyried eu heffaith ar Gymru, yn ogystal â'u goblygiadau i'r Deyrnas Unedig yn ei chyfanrwydd.

"Rhoddodd cyhoeddiad Dydd Gŵyl Dewi lwybr i'r Cynulliad Cenedlaethol ar gyfer sicrhau bod ganddo sylfaen gadarn a pharhaol. Roedd yn dynodi newid yn y cydbwysedd pŵer rhwng San Steffan a'r Cynulliad, yn unol â'm galwadau. Bydd yn ein galluogi, o'r diwedd, i wneud penderfyniadau ar faterion ein hunain fel unrhyw Senedd arall. Mae'n rhaid inni fod yn sicr bod unrhyw fodel newydd o bwerau a gedwir yn ôl yn cynnig setliad sy'n ein galluogi ni i ddeddfu mewn modd eglur a chydlynol er lles Cymru."