Mae angen atebion newydd ac arloesol i ddatrys anghenion mannau gwan band eang a ffonau symudol yng Nghymru.

Cyhoeddwyd 20/09/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 20/09/2017

​Dylai Llywodraeth Cymru ystyried sicrhau bod cymorthdaliadau cyhoeddus i dirfeddianwyr fel ffermwyr yn amodol, yn y dyfodol, ar iddynt ganiatáu mastiau ffôn symudol ar eu tir, yn ôl un o bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol. 

 
 
Mae adroddiad newydd gan Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried ffyrdd arloesol o gysylltu'r pedwar y cant olaf o Gymru sydd heb gyswllt band eang, ac i ystyried diwygio'r drefn gynllunio i wella'r gwasanaeth ffonau symudol ledled y wlad. 
 
Dyma rai o argymhellion eraill yr adroddiad:
  • Dylai Llywodraeth Cymru ystyried sefydlu cynllun ecwiti neu grant ad-daladwy i ganiatáu i weithredwyr bach lenwi'r bylchau yn y rhwydwaith band eang;
  • Dylai'r pedwar y cant o gymunedau ac unigolion mwyaf anodd eu cyrraedd, sy'n byw heb gyswllt band eang, gael eu cynnwys yn y broses fel bod atebion yn cael eu teilwra i'w hanghenion;
  • Dylai Llywodraeth Cymru ddiwygio'r drefn gynllunio i ganiatáu ar gyfer gosod mastiau telathrebu sy'n gwasanaethu ardal ddaearyddol ehangach; ac
  • Mae angen i OFCOM ddefnyddio ei holl bwerau rheoleiddio i gyflawni ei darged o sicrhau signal ar gyfer ffonau symudol dros 100 y cant o'r wlad a dylai hyn fod yn amod lleiaf mewn arwerthiannau ar gyfer yr hawl i drosglwyddo yn y dyfodol. 

 

Seilwaith digidol sy’n addas ar gyfer dyfodol Cymru.

Dywedodd Russell George AC, Cadeirydd y Pwyllgor:
 
"Nid rhywbeth “braf i'w gael” yw cysylltedd bellach yn ein bywydau bob dydd; i lawer o bobl a busnesau yr ydym wedi siarad â nhw yn ystod ein hymchwiliad, mae bellach yn cael ei ystyried yn wasanaeth hanfodol - fel trydan. 
 
"Mae tirlun a dosbarthiad poblogaeth Cymru yn cyflwyno heriau mewn byd lle mai grymoedd y farchnad sy'n pennu cwmpas gwasanaeth band eang a ffonau symudol.
 
"Er bod cynllun Llywodraeth Cymru ar gyfer band eang, Cyflymu Cymru, a gyflwynwyd gyda BT, wedi cysylltu nifer fawr o bobl, mae ardaloedd o hyd nad yw wedi llwyddo i'w cyrraedd, ac mae'r un peth yn wir yn achos ffonau symudol. 
 
"Bydd ein hargymhellion yn cynorthwyo Cymru i ddatblygu seilwaith digidol sydd mor gyflym ac mor ddibynadwy â rhannau eraill o'r DU, ac sy'n addas ar gyfer y dyfodol."

 


Darllen yr adroddiad llawn:

Seilwaith Digidol Cymru (PDF, 742 KB)