Mae angen cyfraith newydd i gryfhau pwerau'r Ombwdsmon yn y Cynulliad nesaf, meddai un o bwyllgorau'r Cynulliad

Cyhoeddwyd 18/03/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 18/03/2016

Dylid cyflwyno cyfraith newydd i gryfhau pwerau Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn y Cynulliad Cenedlaethol nesaf, yn ôl un o bwyllgorau'r Cynulliad.

Mae'r Pwyllgor Cyllid wedi ystyried sut y gellid datblygu rôl yr Ombwdsmon yn y dyfodol ar ôl dod i'r casgliad mewn ymchwiliad blaenorol, er bod y rôl bresennol yn gweithio'n effeithiol a bod Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005 yn cael ei hystyried ar y cyfan yn enghraifft dda iawn o ddeddfwriaeth Ombwdsmon ledled y byd, roedd angen cyfraith newydd i gydgrynhoi'r rôl a'i diogelu at y dyfodol.

 

Y bwriad gwreiddiol oedd cyflwyno Bil yn ystod y Cynulliad cyfredol, ond ni chafodd y Pwyllgor ddigon o amser i wneud hynny.

Felly, aeth ati i lunio Bil drafft, ac mae'r Aelodau wedi argymell y dylai Cynulliad Cenedlaethol newydd Cymru gyflwyno'r Bil hwn ar ôl yr etholiad ar 5 Mai.

"Mae'r Ombwdsmon yn chwarae rôl hanfodol wrth sicrhau bod unrhyw aelod o'r cyhoedd sy'n credu ei fod wedi cael cam drwy gamweinyddu neu fethiant gwasanaeth gan gorff cyhoeddus, yn gallu gwneud cwyn gyda'r sicrwydd y bydd ei gŵyn yn cael ei thrin yn deg ac yn annibynnol", meddai Jocelyn Davies AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid.

"Am y rheswm hwn, rydym yn mawr obeithio y bydd y Pumed Cynulliad yn bwrw ymlaen â'r ddeddfwriaeth, ac y bydd gweithredu'r ddeddfwriaeth yn ychwanegu at rôl yr Ombwdsmon ac yn gwella ffydd y cyhoedd yng Nghymru."

Cytunodd y Pwyllgor y byddai'r newidiadau a ganlyn yn gwella ac yn cryfhau rôl yr Ombwdsmon, gan gynnwys: 

  • Pwerau i gynnal ymchwiliadau ar ei liwt ei hun;
  • Disgresiwn llwyr i'r Ombwdsmon benderfynu sut y gellir gwneud cwynion (gan gynnwys cwynion llafar);
  • Ymdrin â chwynion ar draws y gwasanaethau cyhoeddus; ac
  • Ymestyn awdurdodaeth yr Ombwdsmon i gynnwys darparwyr gofal iechyd preifat (mewn rhai amgylchiadau).

Daeth y Pwyllgor i'r casgliad y dylid llunio deddfwriaeth i Gymru a fyddai'n llywodraethu rôl yr Ombwdsmon, yn hytrach na diwygio Deddf 2005. 

Nod yr Aelodau oedd creu un darn o ddeddfwriaeth ddwyieithog a fyddai'n diddymu Deddf 2005 (mewn perthynas â Chymru) ac yn helpu i gydgrynhoi llyfr statud Cymru.

Rhagor o wybodaeth am y Pwyllgor Cyllid.
Rhagor o wybodaeth am Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.