Mae angen cyllid digonol ar awdurdodau lleol i atal llifogydd, medd adroddiad

Cyhoeddwyd 09/12/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2020   |   Amser darllen munudau

Mae Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig y Senedd wedi cyhoeddi ei adroddiad sy’n edrych ar ymateb Llywodraeth Cymru i'r llifogydd dinistriol fu yng Nghymru ym mis Chwefror 2020.

Mae'r Pwyllgor yn amlinellu pryderon ynghylch sut mae'r gwaith atgyweirio ac atal yn cael ei ariannu ac mae'n galw am ddyrannu cyllid yn seiliedig ar y perygl o lifogydd yn yr ardal, yn hytrach na rhannu arian yn gyfartal ymhlith cynghorau.

Daw adroddiad y Pwyllgor wrth i Lywodraeth Cymru gyhoeddi ei Strategaeth Genedlaethol ar Reoli Perygl Llifogydd ac i Gyfoeth Naturiol Cymru adolygu ei ymateb i'r llifogydd.

Egluro pwy sy'n talu am waith atgyweirio yn sgil llifogydd

Mae'r Pwyllgor yn tynnu sylw at nifer o agweddau a ellid eu gwella. Mae'r gwaith o atgyweirio'r difrod a achoswyd gan y llifogydd ym mis Chwefror 2020 yn parhau ac mae’n gostus. Ond nid yw'n glir sut y bydd y costau hyn yn cael eu talu.

Bu dadl barhaus rhwng Llywodraethau Cymru a Llywodraeth y DU ynglŷn â faint o gyllid y bydd Llywodraeth y DU yn ei ddarparu i helpu i dalu’r costau hyn.

Dyrannu arian yn seiliedig ar angen

Mae'r Pwyllgor hefyd yn mynegi pryderon ynghylch faint o gyllid parhaus sydd ar gael i awdurdodau lleol a Chyfoeth Naturiol Cymru, sydd ill dau yn gyfrifol am leihau'r perygl o lifogydd a pharatoi ar gyfer achosion yn y dyfodol. Mae'r Pwyllgor wedi beirniadu Llywodraeth Cymru o'r blaen am dorri’r cyllid i Gyfoeth Naturiol Cymru sy'n rheoli perygl llifogydd o brif afonydd ac sy'n helpu i ddarparu'r ymateb brys. 

Ar hyn o bryd, mae awdurdodau lleol i gyd yn cael yr un faint o gyllid refeniw waeth beth yw'r perygl o lifogydd yn eu hardal. Dywedodd Cyngor Rhondda Cynon Taf, sef un o’r ardaloedd a gafodd ei tharo waethaf gan y llifogydd ym mis Chwefror, wrth y Pwyllgor fod y Cyngor yn cael "4.54%(1/22) o'r cyllid refeniw cenedlaethol", er bod disgwyl iddo reoli amcangyfrif o "21% o’r perygl llifogydd dŵr wyneb cenedlaethol". Yn ôl Rhondda Cynon Taf, "o safbwynt perygl cyfrannol" mae'n cael ei “danariannu i gefnogi ei swyddogaethau rheoli perygl llifogydd".

Mae'r Pwyllgor yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried y perygl o lifogydd wrth ddyrannu cyllid refeniw i awdurdodau lleol, yn hytrach na rhannu'r arian yn gyfartal rhwng y 22 cyngor yng Nghymru.

Bod yn ddewr wrth wrthod caniatâd cynllunio

Yn ei ymchwiliad, clywodd y Pwyllgor fod osgoi datblygiad amhriodol mewn ardaloedd lle mae perygl o lifogydd yn hanfodol er mwyn lleihau'r perygl ac atal achosion yn y dyfodol. Er mwyn sicrhau hyn, mae’n rhaid i'r polisïau cynllunio a llifogydd gyd-dynnu, ac mae’n rhaid i benderfyniadau gael eu llywio gan ddata cadarn.

Gyda chanllawiau cynllunio newydd ar ei ffordd yn 2021 ynghyd â Strategaeth Genedlaethol Llywodraeth Cymru ar lifogydd, dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru wrth y Pwyllgor ei fod yn annog awdurdodau lleol i ddefnyddio ei gyngor a bod yn “ddewr” wrth wrthod caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiadau mewn ardaloedd lle mae perygl o lifogydd.

 

“Mae gan awdurdodau lleol a Chyfoeth Naturiol Cymru fwy a mwy o gyfrifoldebau a heriau o ran mynd i’r afael â llifogydd - i wneud hyn mae angen cyllid digonol arnynt gan y llywodraeth.

“Y llifogydd a darodd Cymru ym mis Chwefror 2020 oedd rhai o’r gwaethaf a gofnodwyd. Cawsant effaith ddinistriol a hirhoedlog ar gymunedau ledled y wlad, gyda thros 3,000 o eiddo wedi'u heffeithio. Ond rhaid inni gofio nad yw hyn yn ymwneud ag ystadegau yn unig. Mae unigolion a theuluoedd sy'n byw yn ein cymunedau wedi dioddef, ac mae'n bosib eu bod yn dal i ddioddef, oherwydd y difrod i'w cartrefi a'u bywoliaeth. 

“Disgrifiwyd y llifogydd fel 'digwyddiadau digynsail'. Nid oes unrhyw beth yn dangos hyn yn fwy nag adroddiad Cyfoeth Naturiol Cymru, sef eu bod wedi amcangyfrif fod 805 metr ciwbig o ddŵr yr eiliad yn pasio trwy Bontypridd ar un adeg - digon i lenwi pwll nofio Olympaidd mewn ychydig dros dair eiliad.

“Er y gellir dweud fod y llifogydd yn ‘ddigynsail’, mae’n debyg y bydd effeithiau newid yn yr hinsawdd yn golygu y bydd ein tywydd yn fwy eithafol ac y bydd mwy o lifogydd. Bellach mae'n bwysicach nag erioed i Lywodraeth Cymru a'i phartneriaid osod trefniadau cadarn ar waith er mwyn ymateb i ddigwyddiadau o'r fath.”

- Mike Hedges AS, Cadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig