Mae angen cynnal y cynnydd o ran gwella gwasanaethau orthodontig yng Nghymru, meddai un o bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol

Cyhoeddwyd 15/07/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 04/09/2014

Dywed Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Cynulliad Cenedlaethol fod angen cynnal y cynnydd a wnaed o ran gwella gwasanaethau orthodontig yng Nghymru.

Canfu’r Pwyllgor fod problemau’n parhau i fodoli mewn rhai ardaloedd, er bod rhai gwelliannau wedi’u gwneud ers i un o bwyllgorau’r Cynulliad gyhoeddi adroddiad yn 2011.

Yn arbennig, mae’n argymell diwygio trefniadau talu a chontract er mwyn sicrhau perfformiad cadarn a gwaith monitro effeithiol.

Tynnodd y Pwyllgor sylw hefyd at yr atgyfeiriadau amhriodol a wneir gan rai ymarferwyr deintyddol a’r amrywiaeth mewn rhestri aros rhwng byrddau iechyd lleol.

“Mae’r Pwyllgor yn cydnabod bod rhai gwelliannau wedi’u gwneud ers 2011 ond mae’n credu bod angen gwneud rhagor o gynnydd er mwyn darparu gwasanaethau orthodontig cyson ac o ansawdd uchel ledled Cymru,” meddai David Rees AC, Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

“Rydym yn pryderu bod atgyfeiriadau amhriodol am driniaeth yn parhau i gael eu gwneud gan rai ymarferwyr deintyddol a gall y rhain lenwi rhestri aros heb angen.

“Mae hyn wedi cyfrannu at yr amrywiaeth yr ydym wedi’i gweld mewn rhestri aros mewn gwahanol fyrddau iechyd lleol ledled y wlad.

“Daethom hefyd i’r casgliad y dylid diwygio’r trefniadau talu a chontract ar gyfer gwasanaethau orthodontig er mwyn sicrhau perfformiad cadarn a gwaith monitro effeithiol.”

Mae’r Pwyllgor yn gwneud chwe argymhelliad yn ei adroddiad, yn cynnwys:

  • Bod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn nodi’r camau gweithredu y gall byrddau iechyd lleol a rhwydweithiau clinigol a reolir eu cymryd, gydag amserlenni cysylltiedig, er mwyn gwella amseroedd aros yn ardal pob bwrdd iechyd lleol, a nodi’r trefniadau monitro y bydd yn eu rhoi ar waith;

  • Er mwyn sicrhau bod y gwasanaeth y mae cleifion yn ei gael o safon ddigonol, mae’r canllawiau a roddir i fyrddau iechyd lleol gan y Prif Swyddog Deintyddol mewn perthynas â chomisiynu gwasanaethau orthodontig yn cynnwys yr arfer gorau ar gyfer sefydlu a monitro gwasanaethau o’r fath; a,

  • Bod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn cymryd camau i ddiwygio trefniadau talu am wasanaethau orthodontig er mwyn mynd i’r afael â’r pryderon a godwyd gan y Pwyllgor.

Adroddiad: Gwasanaethau orthodontig yng Nghymru

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am yr ymchwiliad i wasanaethau orthodontig yng Nghymru yma.