Mae angen diwygiadau brys i roi diwedd ar y cynnydd brawychus yn nifer y plant mewn gofal

Cyhoeddwyd 24/05/2023   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 24/05/2023   |   Amser darllen munudau

Rhaid i Lywodraeth Cymru roi blaenoriaeth i gryfhau hawliau cyfreithiol pobl ifanc mewn gofal os yw am sicrhau “diwygiadau radical” a gwrthdroi tuedd frawychus i nifer gynyddol o blant ddod yn rhan o’r system gofal.

Dyma gasgliad ymchwiliad gan Bwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd i’r newidiadau brys y mae angen eu gweld yn system gofal Cymru.

Darllenwch adroddiad y Pwyllgor: Os nad nawr, pryd? Diwygio radical ar gyfer plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal

Cafodd yr ymchwiliad ei lywio gan leisiau pobl ifanc ledled Cymru sydd â phrofiad o fod mewn gofal. Dywedodd nifer ohonynt wrth Aelodau’r Pwyllgor eu bod yn teimlo’u bod yn cael eu hanwybyddu ac nad oedd ganddynt unrhyw lais yn y penderfyniadau sy’n effeithio ar eu bywydau.

Mae’n syfrdanol bod nifer y plant mewn gofal yng Nghymru wedi cynyddu 23% bron ers 2013.

Mae’r Pwyllgor yn argymell bod diwygiadau Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio ar gryfhau’r cymorth sydd ar gael i blant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal. Mae’n galw am roi mwy o gyfrifoldebau cyfreithiol ar yr awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus eraill sy’n gweithredu fel rhieni i’r bobl ifanc hyn, er mwyn sicrhau eu bod yn rhoi’r cymorth angenrheidiol iddynt, fel y byddai unrhyw riant da’n ei wneud dros ei blant ei hun.

At ei gilydd, mae’r Pwyllgor yn galw am 12 o ‘ddiwygiadau radical’ i sbarduno newidiadau brys, mawr eu hangen, yn y system ofal.  Mae’r adroddiad yn cynnwys cyfanswm o 27 o argymhellion.

Mae hyn yn cynnwys galw am gyfraith a fydd yn ei gwneud yn ofynnol i gynghorau gyfrifo uchafswm y llwythi achosion y gall gweithiwr cymdeithasol gofal plant eu rheoli'n ddiogel a gwneud popeth o fewn eu gallu i gadw at y terfynau hynny. Mae’n awgrymu y gallai hyn fod yn seiliedig ar gyfreithiau Cymru ar gyfer lefelau diogel staff nyrsio.

Byddai hyn yn helpu i fynd i'r afael â'r trawma sy’n effeithio ar bobl ifanc pan fydd gweithwyr gofal dan bwysau. Dywedodd pobl ifanc wrth y Pwyllgor bod eu hachosion yn cael eu trosglwyddo o’r naill weithwyr cymdeithasol i’r llall ac, oherwydd hynny, roeddent yn gorfod adrodd eu hanes droeon, roeddent yn teimlo nad oeddent yn cael eu hystyried yn flaenoriaeth ac roeddent, weithiau, yn hunan-niweidio i gael sylw eu gweithiwr cymdeithasol.

Mae’r argymhellion eraill yn cynnwys:

  • Sicrhau bod’ ‘profiad o ofal’ yn nodwedd warchodedig o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.
  • Osgoi sefyllfaoedd ‘ymyl y dibyn’ sy’n nodweddiadol o’r gwasanaethau cymorth a gaiff cynifer o bobl ifanc pan fyddant yn troi’n 21 oed, drwy ymestyn y cymorth sydd ar gael yn gyfreithiol i’r rhai sy’n gadael gofal nes eu bod yn 25 oed
  • Rhoi statws “angen blaenoriaethol” i’r rhai sydd â phrofiad o fod mewn gofal nes byddant yn 25 oed os byddant yn ddigartref a rhoi’r brif flaenoriaeth iddynt mewn polisïau dyrannu tai
  • Gweithio i ddod â’r cylch gofal i ben, drwy roi hawl cyfreithiol i bob rhiant sydd â phrofiad o fod mewn gofal gael gofal cofleidiol dwys a chael cymorth gan weithiwr cymorth annibynnol os yw plentyn yn cael ei roi ar gofrestr amddiffyn plant
  • Ei gwneud yn hawl gyfreithiol i bob plentyn mewn gofal gael mynediad at therapi iechyd meddwl sy’n ystyriol o drawma ynghyd â chymorth eiriolaeth hirdymor (rhywun i helpu i fynegi ei ddymuniadau a sefyll dros ei hawliau) o’r adeg y byddant yn dod yn rhan o’r system ofal

Dywedodd Jayne Bryant AS, Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg:

“Drwy gydol ein hymchwiliad, clywsom gan bobl ifanc sydd â phrofiad o’r system ofal a chan y sefydliadau sy’n eu cynorthwyo. Straeon am boen a thrawma oedd ganddynt, a chawsom ddarlun o system sy’n methu yn llawer rhy aml.

“Dylai unrhyw un sy’n honni bod y wladwriaeth yn gwneud ei waith rhianta corfforaethol yn dda ystyried a fyddent yn hapus i’w plentyn ei hun gael gofal gan y system honno. A fyddai unrhyw riant da yn dymuno hynny ar gyfer ei blentyn ei hun.

“Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gyflwyno diwygiadau radical i’r system, ac rydym yn falch o weld hynny'n cael ei ailadrodd mewn datganiad gyda phobl ifanc ychydig wythnosau yn ôl. Yn awr yw’r amser i weithredu.  Mae dirfawr angen mwy o gymorth ar y bobl ifanc hyn a rhaid sicrhau y bydd cymorth yno iddynt drwy roi’r hawl cyfreithiol iddynt ei gael.”