Mae angen gweddnewid polisïau twristiaeth wledig Llywodraeth Cymru, yn ôl un o bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol

Cyhoeddwyd 16/02/2011   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Mae angen gweddnewid polisïau twristiaeth wledig Llywodraeth Cymru, yn ôl un o bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol

16 Chwefror 2010

Mae angen adolygiad enfawr o bolisïau Llywodraeth Cymru er mwyn datblygu’r diwydiant twristiaeth wledig yng Nghymru, yn ôl adroddiad newydd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Canfu’r Is-bwyllgor Datblygu Gwledig trawsbleidiol bod amrywiaeth eang o bolisïau a strategaethau eisoes wedi’u sefydlu gyda’r bwriad o gynorthwyo’r sector. Ond, yn ôl tystiolaeth a gafwyd gan rai tystion, maent yn ddryslyd, yn aneglur ac ychydig iawn o gysylltiad sydd rhyngddynt, os o gwbl.

Clywodd y Pwyllgor fod digon o adnoddau, mewn rhai achosion, yn cael eu clustnodi er mwyn cyflwyno polisïau a syniadau, ond bod llai o adnoddau ar gael i’w rhoi ar waith.

Argymhellir gweddnewid yr holl gynlluniau sydd ar gael gan roi mwy o ymdrech i’w symleiddio a’u gwneud yn fwy tryloyw.

Dywedodd Rhodri Glyn Thomas AC, Cadeirydd y Pwyllgor: “Mae’r diwydiant twristiaeth yn werth tua £6 biliwn y flwyddyn yng Nghymru, a bron i ddwy ran o dair yn cael ei gynhyrchu yn y siroedd gwledig.

“Yr hyn sy’n dod yn amlwg yn yr adroddiad hwn yw sut mae pobl sy’n gweithio yn y diwydiant hwn yn llwyddo er gwaethaf y cawdel o bolisïau sydd ag ychydig iawn o gydlyniad na chydgysylltiad rhyngddynt.

“Mae’r Pwyllgor hwn yn falch iawn o’r sylw mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i ddatblygu’r diwydiant ond rydym yn teimlo ei bod yn ymdrechu gormod i’w wella a thrwy hynny yn ei ddifetha.

“Rydym wedi nodi rhai meysydd fel cyllido datblygiadau, cysylltiadau trafnidiaeth wledig a chyrhaeddiad band llydan fel rhai y dylai’r diwydiant eu blaenoriaethu ac rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnwys y rhain mewn cyfres o bolisïau symlach a mwy cydlynol er mwyn helpu’r sector pwysig hwn yn economi Cymru i ddatblygu.”

DIWEDD