Mae Pwyllgor Economi'r Senedd yn galw am welliannau brys ar gyfer gyrwyr cerbydau nwyddau trwm yn sgil effaith y prinder gyrwyr ar gadwyni cyflenwi yng Nghymru.
Ar ôl gweld silffoedd gwag mewn siopau, gorsafoedd petrol ar gau, a tharfu ar wasanaethau y llynedd, mae'r Pwyllgor wedi cynnal ymchwiliad i’r rhesymau dros y prinder gyrwyr a’r problemau yn y diwydiant.
Mae'r Pwyllgor yn tynnu sylw at broblemau difrifol ac mae wedi clywed pryderon dybryd gan yrwyr cerbydau nwyddau trwm. Dywedodd un gyrrwr wrth y Pwyllgor:
“The age demographic of drivers is now into the late 50 so in the next 10-12 years most drivers in this country will have retired, why on earth would any young person want to go into the haulage industry. Any child of a driver will know how **** it is as they never saw their father.
“It’s dirty, **** pay, stuck in traffic, treated like a second-class citizen, spoken to like ****, continually hassled by office clerks who can’t even drive a car, VOSA and the Police. Made to wait in cold, damp, draughty corridors with no facilities while the warehouse takes hours to tip you. **** pay.”
Mae'r Pwyllgor yn glir bod sawl ffactor wedi cyfrannu at greu’r sefyllfa, gan gynnwys effaith y pandemig a gadael yr UE. Cafodd effaith y ffactorau hyn ei dwysau gan brinder gyrwyr, a oedd eisoes yn broblem, ac felly mae’r prinder hwnnw’n un o’r prif achosion sydd wrth wraidd y trafferthion mae’r gadwyn gyflenwi yn eu hwynebu.
Ar ôl siarad â gyrwyr, cynrychiolwyr y diwydiant a busnesau, mae adroddiad y Pwyllgor heddiw yn cynnig argymhellion ac yn galw am weithredu brys gan Lywodraeth Cymru.
Mae’r adroddiad yn cynnwys nifer o argymhellion am welliannau a mesurau brys i gefnogi'r diwydiant.
Cyfleusterau gorffwys
Gwnaeth gyrwyr nifer o gwynion am safon mannau gorffwys ledled Cymru. Nid oes cyfleusterau yn y mannau hyn, maent yn aml yn frwnt ac mae’r bwyd yn ddrud ac yn wael. Roedd yn bryder mawr i’r Aelodau glywed gyrwyr yn sôn am achosion rheolaidd o ladrad a bygythiadau o drais, ac roedd rhai o’r gyrwyr yn meddwl bod hynny’n rhan anochel o’r swydd.
Daeth y Pwyllgor i'r casgliad bod y diffyg mannau gorffwys diogel sydd â chyfleusterau da a glân yn un o’r prif resymau y mae llawer o yrwyr yn rhoi'r gorau iddi a pham nad yw pobl yn gweld gyrru cerbydau nwyddau trwm fel dewis gyrfa hyfyw.
Mae'r adroddiad heddiw yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnal archwiliad o gyfleusterau gorffwys i yrwyr a chreu rhestr genedlaethol debyg i'r hyn sydd ar gael yn Lloegr.
Mae hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio ar frys gyda phartneriaid i wella mannau gorffwys i yrwyr cerbydau nwyddau trwm ac i greu system safonau wirfoddol sy'n dangos i yrwyr pa mor gyffyrddus a pha mor ddiogel yw mannau gorffwys.
Er mwyn helpu o ran y diffyg cyfleusterau, mae'r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn diweddaru polisi cynllunio o ran cyfleusterau warysau a datblygiadau eraill lle disgwylir y bydd nwyddau’n cael eu danfon a’u casglu’n rheolaidd i’w gwneud yn ofynnol iddynt ddarparu cyfleusterau o safon uchel i yrwyr.
Prentisiaethau a hyfforddiant
Clywodd y Pwyllgor gryn gefnogaeth ar gyfer rhaglenni prentisiaeth i yrwyr cerbydau nwyddau trwm, a hynny o du’r diwydiant ac yn uniongyrchol gan yrwyr.
Mae'r adroddiad yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru fynd ati ar frys i weithio gyda’r diwydiant i ddatblygu rhaglenni prentisiaeth i yrwyr cerbydau nwyddau trwm ac i gefnogi'r diwydiant i gynyddu nifer y darparwyr hyfforddiant sydd ar gael.
Mynegodd y gyrwyr a roddodd dystiolaeth i'r Pwyllgor bryderon hefyd am y Dystysgrif Cymhwysedd Proffesiynol i yrwyr. Un o’r materion a nodwyd oedd nad oedd y cymhwyster yn berthnasol ar gyfer y swydd o ddydd i ddydd.
Mae'r Pwyllgor yn cytuno bod datblygiad proffesiynol parhaus i yrwyr yn gadarnhaol, ac mae'r Aelodau'n credu y dylai hyfforddiant a datblygiad helpu gyrwyr i symud ymlaen ar hyd eu gyrfa. Fodd bynnag, mae'r Pwyllgor yn teimlo bod tystiolaeth gref y dylid diweddaru cwricwlwm yr hyfforddiant hwn.
Dywedodd Paul Davies AS, Cadeirydd Pwyllgor Economi'r Senedd:
"Mae'n gwbl glir bod gyrwyr cerbydau nwyddau trwm yn rhan hanfodol o’r cadwyni cyflenwi sy'n cefnogi bron pob agwedd ar fywyd modern. Y llynedd, gwelsom beth sy'n digwydd pan fydd prinder gyrwyr yn achosi i'r cadwyni cyflenwi hyn chwalu – rhai o’r silffoedd yn wag yn ein siopau, rhai gorsafoedd petrol ar gau, a tharfu ar rai gwasanaethau.
"Y tu ôl i'r prinder y mae pobl go iawn sy’n gweithio'n galed iawn i gadw economi Cymru i fynd ac i sicrhau ein bod ni'n cael bwyd yn ystod y cyfnod heriol hwn. Yn sgil ein hymchwiliad, clywsom straeon brawychus am yr amodau y mae gyrwyr cerbydau nwyddau trwm yn eu hwynebu bob dydd.
"Os nad ydym yn mynd i'r afael â'r materion, nid oes fawr ddim gobaith o recriwtio gyrwyr newydd, felly heddiw rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau brys i wella cyfleusterau gyrwyr ledled y wlad. Er mwyn diogelu cadwyni cyflenwi yn y dyfodol, rhaid i'r Llywodraeth a'r diwydiant gydweithio a mynd i'r afael â’r prinder cronig parhaus o ran gyrwyr cerbydau nwyddau trwm.
"Mae ein hadroddiad yn nodi argymhellion a fydd, yn ein barn ni, yn gwella profiadau, rhagolygon, a’r drefn o ran recriwtio a chadw gyrwyr er mwyn cyrraedd y nod hwnnw a chefnogi ein gyrwyr gwerthfawr."