Mae angen ystyried diwygiadau sylweddol a datrysiadau radical i ddarparu'r gwasanaethau hanfodol y bydd eu hangen ar bobl hŷn a bregus yng Nghymru yn ôl Pwyllgor Cyllid y Cynulliad Cenedlaethol.
Canfu bod costau gofal cymdeithasol oedolion yn debygol o godi o £1.3 biliwn yn 2015 i tua £2.3 biliwn yn 2030 os yw nifer y bobl hŷn yng Nghymru yn parhau i godi fel y disgwylir.
Mewn poblogaeth o 3.1 miliwn, mae dros 800,000 o bobl yng Nghymru yn 60 oed a hŷn, ac mae tua thraean y rhain yn 75 oed o leiaf. Mae cyfran y bobl hŷn yng Nghymru wedi bod yn cynyddu dros y degawd diwethaf ac mae amcanestyniadau poblogaeth diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos bod disgwyl i nifer y bobl dros 65 oed barhau i godi dros y blynyddoedd nesaf.
Canfu'r Pwyllgor, hefyd, fod gwariant ar ofal cymdeithasol yng Nghymru, ar y cyfan, wedi'i ddiogelu mewn termau cymharol yn ystod y blynyddoedd o doriadau anodd a wynebwyd gan gyrff cyhoeddus. Fodd bynnag, mae'r cynnydd yn y boblogaeth yn golygu bod gwariant y pen ar bobl dros 65 oed wedi gostwng 14 y cant mewn termau real rhwng 2009-10 a 2016-17.
Gwelodd y Pwyllgor hefyd argyfwng wrth recriwtio yn y sector gofal cymdeithasol yng Nghymru gyda throsiant uchel o staff hyfforddedig i ddarparu gwasanaethau hanfodol.
Dywedodd rhai darparwyr gofal wrth y Pwyllgor eu bod yn dod ar draws trosiant o rhwng chwarter a thraean o’u staff bob blwyddyn.
Gallai hyn fod yn cael ei waethygu gan yr ansicrwydd ynghylch rheolau mewnfudo ar ôl Brexit, a allai rwystro gweithwyr gofal medrus rhag dod i'r DU, tra bod eraill sydd eisoes yn gweithio yma yn paratoi i adael.
Dywedodd Fforwm Gofal Cymru fod yr ansicrwydd ynghylch statws mewnfudo ar ôl Brexit eisoes yn cael effaith o ran recriwtio oherwydd bod angen i lawer o ddarparwyr recriwtio o wledydd tramor i lenwi swyddi.
Dywedodd Cadeirydd dros dro y Pwyllgor, Llyr Gruffydd AC:
"Mae'r system gofal cymdeithasol eisoes yn wynebu galw cynyddol sy'n anodd ei ddiwallu, toriadau i gyllidebau llywodraeth leol, pwysau o ran y gweithlu a sector annibynnol bregus.
"Nid yw'r heriau hyn yn newydd, ond mae'r amser bellach wedi dod i ddiwygio'n sylweddol a/neu ystyried atebion radical yn briodol.
Mae pobl hŷn yn ased sylweddol ac mae'r Pwyllgor yn cydnabod, yn y pen draw, y dylai'r system gofal cymdeithasol fod yn helpu pobl i barhau i gyflawni eu potensial yn ddiweddarach yn eu hoes, i fyw ag urddas a chyfrannu eu profiad gwerthfawr i gymdeithas."
Gwnaeth y Pwyllgor naw o argymhellion yn ei adroddiad, gan gynnwys:
- [bod] Llywodraeth Cymru yn rhoi blaenoriaeth i ddatblygu strategaeth ar gyfer y gweithlu gofal cymdeithasol ac yn cymryd camau priodol i godi statws gweithwyr gofal cymdeithasol, a rhoi cymorth iddynt, fel bod y rôl yn yrfa ddeniadol gyda chyflog priodol;
- argymell y dylai Llywodraeth Cymru, fel mater o frys, barhau i archwilio opsiynau amgen pellach er mwyn sicrhau bod unrhyw ddiwygiadau posibl a weithredir yn y dyfodol i'r dulliau cyllido yn ddigonol i gynnal system gofal cymdeithasol gynaliadwy sy'n addas i ddiwallu anghenion y rhai sydd angen ei gymorth; a
- bod Llywodraeth Cymru yn parhau i ymgysylltu â'r cyhoedd ynglŷn â chyllido gwasanaethau gofal cymdeithasol yn y dyfodol ond, yn fwy arwyddocaol, mae'n rhaid iddi drafod yr hyn y byddai'r cyhoedd yn disgwyl ei gael yn gyfnewid am wneud cyfraniadau ychwanegol.
Bydd yr adroddiad nawr yn cael ei drafod gan Lywodraeth Cymru.