Mae angen gwella trefniadau gweithio oriau hyblyg a threfniadau gofal plant, a datblygu diwylliant newydd i sicrhau cydraddoldeb rhwng y rhywiau yn y gwaith

Cyhoeddwyd 16/07/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 26/07/2018

Mae trefniadau haearnaidd yn y gweithle, rhagdybiaeth mai merched fydd yn gyfrifol am ofal plant, a gwahaniaethu ar raddfa eang yn golygu bod mamau yn fwy tebygol o gael eu dal yn gaeth mewn swyddi rhan amser a gwaith sydd â chyflog isel ac yn llai tebygol o gael cyfleoedd i ddatblygu gyrfa.

Dyna gasgliadau un o bwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol, sydd wedi bod yn ystyried y mater.

Mae'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau yn credu mai ffactorau fel hyn sy’n bennaf cyfrifol am anghydraddoldeb rhwng y rhywiau ac yn golled i’r economi.

Mae Cyngor Busnes Menywod Llywodraeth y DU wedi amcangyfrif y gallai economi’r DU dyfu dros 10% erbyn 2030 pe bai cyfraddau cyflogaeth dynion a merched yn gyfartal.

Yng Nghymru, cyfradd gyflogaeth merched â phlant dibynnol yw 75%, o’i chymharu â chyfradd dynion â phlant dibynnol, sef 91%.

Y bwlch cyflog rhwng dynion a merched yng Nghymru yw 15% yn gyffredinol (gweithwyr llawn amser a rhan amser).

Dangosodd arolwg a gynhaliodd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn 2016 fod cyfran is o gyflogwyr yng Nghymru yn cynnig i’w staff weithio oriau hyblyg nag yn Lloegr a'r Alban.

Yn ôl yr un arolwg, roedd 87% o gyflogwyr yng Nghymru o’r farn ei bod o fudd i sefydliadau gefnogi merched beichiog a’r rhai sydd ar absenoldeb mamolaeth. Fodd bynnag, roedd 71% o famau wedi cael profiadau negyddol, neu’n teimlo bod eu cyflogwyr wedi gwahaniaethu yn eu herbyn, ar ôl iddynt gael plant. 

Nid yw cyfraith cyflogaeth wedi'i ddatganoli i Gymru ond canolbwyntiodd y Pwyllgor ar yr hyn y gallai Llywodraeth Cymru ei wneud gan gynnwys dylanwadu ar amodau cyflogaeth gweithwyr yn y sector cyhoeddus a busnesau a sefydliadau sy'n derbyn arian cyhoeddus,

"Yn ystod ein hymchwiliad, clywsom rai profiadau unigol syfrdanol: menywod a gollodd eu swyddi yn ystod absenoldeb mamolaeth, gyrfaoedd a danseiliwyd oherwydd diffyg cyfle i weithio’n hyblyg, a thadau yn cael eu hatal rhag cymryd cyfrifoldebau gofalu oherwydd agweddau diwylliannol,” meddai John Griffiths AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau.

“Mae'r straeon hyn wedi dylanwadu'n uniongyrchol ar ein casgliadau a’n hargymhellion.”

“Nid yw atal cyfran helaeth o'r boblogaeth rhag cyfrannu eu sgiliau a'u profiad at y gweithlu yn deg, ac nid yw'n gwneud synnwyr economaidd.

“Yn sgil newidiadau technolegol, cymdeithasol ac economaidd, dyma'r amser i foderneiddio gweithleoedd fel eu bod yn addas ar gyfer y dyfodol i bawb, nid rhieni yn unig.

"Rydym yn credu y gall Llywodraeth Cymru osod safon drwy hyrwyddo gweithio hyblyg, gan sicrhau bod sefydliadau sy'n derbyn arian cyhoeddus yn hyblyg yn ddiofyn, a drwy ailasesu ei gynnig gofal plant newydd."

Mae'r Pwyllgor yn gwneud 34 o argymhellion yn ei adroddiad, gan gynnwys:

  • Y dylai Llywodraeth Cymru hysbysebu swyddi yn y sector cyhoeddus (gan gynnwys swyddi addysgu) fel swyddi 'hyblyg yn ddiofyn', ac arwain y ffordd drwy ganiatáu i’r rhai mewn rolau uwch, fel Gweinidogion a chynghorwyr, rannu swydd;

  • Cryfhau'r rhwymedigaethau ar sefydliadau sy'n derbyn arian cyhoeddus i gynnig trefniadau gweithio oriau hyblyg ac i gyflwyno adroddiad ar eu cyfraddau cadw staff sy'n dychwelyd ar ôl absenoldeb mamolaeth;

  • Clywodd y Pwyllgor nad fydd Cynnig Gofal Plant newydd Llywodraeth Cymru yn debygol o gyflawni ei phrif nod o gynyddu nifer y mamau mewn gwaith yn y ffordd fwyaf effeithiol. Argymhellodd fod y Llywodraeth yn ailystyried y grŵp oedran targed a'r trothwy incwm; a

  • Dylai Llywodraeth Cymru wella gwasanaethau cynghori yng Nghymru, a dylai merched gael gwybodaeth am hawliau a rhwymedigaethau yn y gwaith ar ddechrau eu beichiogrwydd.

Bydd Llywodraeth Cymru yn trafod yr adroddiad yn awr.

 


 

Darllen yr adroddiad llawn:

Wrth eich gwaith: rhianta a chyflogaeth yng Nghymru (PDF, 3 MB)