Mae angen gwneud mwy i godi ymwybyddiaeth o bolisïau a chanllawiau ynghylch amddiffyn plant rhag yr haul

Cyhoeddwyd 01/05/2012   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Mae angen gwneud mwy i godi ymwybyddiaeth o bolisïau a chanllawiau ynghylch amddiffyn plant rhag yr haul

1 Mai 2012

Yn ôl un o bwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru, mae angen mwy o ymwybyddiaeth o’r polisïau a’r canllawiau ar gyfer ysgolion yng Nghymru ynghylch amddiffyn plant rhag yr haul.

Canfu ymchwiliad gan Bwyllgor Plant a Phobl Ifanc fod Llywodraeth Cymru wedi llunio canllawiau ynghylch amddiffyn plant rhag yr haul mewn ysgolion ond bod angen gwneud mwy i hyrwyddo ymwybyddiaeth o’r canllawiau ac i annog ysgolion i ddatblygu polisïau unigol.

Anogodd y Pwyllgor Llywodraeth Cymru i weithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, ysgolion a sefydliadau’r trydydd sector i roi sylw i’r canllawiau presennol.

Cynhaliwyd yr ymchwiliad mewn ymateb i ddeiseb gan elusen ganser Tenovus, a oedd yn galw am ddarparu eli haul am ddim i bob plentyn o dan 11 oed yng Nghymru.

Roedd y Pwyllgor yn croesawu dull o weithio ehangach ym maes diogelwch yn yr haul ac atal canser y croen, a phenderfynodd na fyddai’n cefnogi’r hyn yr oedd y ddeiseb yn galw amdano, sef eli haul am ddim.

Dywedodd Christine Chapman AC, Cadeirydd y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc, “Yn ystod yr ymchwiliad hwn, clywodd y Pwyllgor fod addysg a darparu gwybodaeth yn bwysicach wrth amddiffyn pobl rhag effeithiau pelydrau’r haul,”.

“Rydym ni’n croesawu’r gwaith y mae sefydliadau fel Tenovus yn ei wneud i godi ymwybyddiaeth o ganser y croen ac i leihau nifer yr achosion, ac rydym ni’n teimlo y byddai mwy o gydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a’r asiantaethau perthnasol yng Nghymru yn gwneud llawer i oresgyn y broblem.

“Rydym o’r farn bod y polisïau a’r canllawiau fel y rhai a geir yn SunSmart yn ddigonol ond bod angen eu hyrwyddo a’u monitro yn well i sicrhau bod dealltwriaeth ohonynt ar led a’u bod yn cael eu defnyddio’n gyson.”

Mae’r Pwyllgor yn gwneud chwe argymhelliad yn ei adroddiad a fydd yn cael ei anfon at Lywodraeth Cymru i’w ystyried.

Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc

Linc i ragor o wybodaeth am yr ymchwilad i amddiffyn plant rhag yr haul