Mae angen gwneud mwy i goffáu cyfraniad grwpiau sydd ddim yn cael eu cynrychioli ddigon

Cyhoeddwyd 25/03/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 25/03/2021   |   Amser darllen munudau

Mae Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu'r Senedd yn galw am gomisiynu cerfluniau neu waith celf newydd yng Nghymru i fynd i'r afael â diffyg amrywiaeth ymhlith y bobl sydd yn cael eu coffáu mewn mannau cyhoeddus.

Dydi menywod; pobl anabl; pobl dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig a phobl LHDT+ ddim yn cael eu cynrychioli ddigon ar hyn o bryd, yn ôl y Pwyllgor.

Mae’r Pwyllgor wedi cynnal ymchwiliad i’r ffyrdd y mae cyfraniad pobl yn cael ei ddathlu mewn mannau cyhoeddus yng Nghymru. Bu’r Pwyllgor yn archwilio sut mae pobl yn cael eu dewis ar gyfer cofebion; pa egwyddorion y gellid eu gosod ar gyfer coffáu; a'r broses y gellid, neu y dylid ei dilyn, os yw pobl eisiau cael gwared ar gofeb. 

Cynllun plac cenedlaethol Cymru

Mae'r Pwyllgor yn galw am greu cynllun coffáu cyhoeddus cenedlaethol newydd 'Plac y Ddraig' ac am 'sgwrs genedlaethol' ar y casgliad cyntaf o blaciau. Mae'r Pwyllgor yn gobeithio y byddai'r cynllun yn helpu i godi ymwybyddiaeth o'n hanes a sut y mae'n berthnasol i Gymru heddiw a Chymru yfory.

Dylai'r cynllun, sy’n cael ei gynnig gan y Pwyllgor, ddarparu cyllid ar gyfer y placiau, gyda phob ardal awdurdod lleol yn cymryd rhan o fewn fframwaith cenedlaethol wedi’i oruchwylio gan Lywodraeth Cymru.

Penderfyniadau a wneir gan gymunedau

Fel rhan o'i ymchwiliad i bwy sy'n cael eu coffáu mewn mannau cyhoeddus, clywodd y Pwyllgor safbwyntiau croes ar y ddadl ynghylch cael gwared ar gerfluniau. Ar un pegwn roedd rhai yn gwrthwynebu’r syniad o gael gwared ar gerfluniau yn llwyr ac ar y pegwn arall roedd rhai yn cwestiynu diben a pherthnasedd cerfluniau yn y man cyntaf.

O ran penderfynu a ddylid cael gwared ar gerfluniau dadleuol, mae’r Pwyllgor o’r farn y dylai cymunedau lleol ystyried pob dewis yn llawn cyn penderfynu, fel ystyried a ddylid darparu mwy o wybodaeth a chyd-destun gyda’r cerflun. Mae'r adroddiad yn argymell fod penderfyniadau ynghylch pwy ddylai gael ei goffáu yn cael eu gwneud gan gymunedau ac awdurdodau lleol ond mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru osod mwy o arweiniad a chanllawiau. Mae'r Pwyllgor yn galw am ganllawiau i gynnwys:

  • cyngor am sut i ymgynghori orau â chymunedau lleol
  • cyngor am sut i ymgysylltu â grwpiau mwy anodd eu cyrraedd a grwpiau lleiafrifol
  • cyngor am sut i gasglu barn arbenigol, gan gynnwys haneswyr lleol.

Dywedodd Bethan Sayed AS, Cadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu:

"Yng Nghymru cawsom ein syfrdanu gan y digwyddiadau yn haf 2020 a marwolaeth drasig George Floyd. Gyda’r don o brotestiadau a ddilynodd, taniwyd dadl am y bobl sy’n cael eu cofio yn ein mannau cyhoeddus.

"Mae llawer yn ein hanes i ymfalchïo ynddo, ond ni ddylai'r balchder hwnnw yr ydym i gyd yn ei deimlo ein rhwystro rhag cydnabod y digwyddiadau mwy eithafol sydd hefyd yn ein gorffennol – y mae eu heffaith i’w teimlo hyd heddiw.

"Rydym yn awyddus i gymunedau gael y gair olaf ynghylch pwy ddylai gael eu coffáu yn eu hardaloedd nhw ond credwn y dylai Llywodraeth Cymru ddangos arweiniad a darparu canllawiau ar sut i gynnwys pob rhan o'r gymuned yn y drafodaeth.

"Mae amrywiaeth yn broblem ddifrifol ac mae mwyafrif llethol y cerfluniau ledled Cymru yn coffáu dynion gwyn. Mae'n bryd i ni fynd i'r afael â hyn a chreu cerfluniau newydd neu waith celf sy'n cydnabod cyfraniadau menywod; pobl anabl; pobl dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig a phobl LHDT+ hefyd.

"Gallai ein hargymhelliad ar gyfer cynllun plac cenedlaethol newydd i Gymru, 'Plac y Ddraig', fod yn fan cychwyn er mwyn mynd i'r afael â'r anghydbwysedd a chynnwys y gymuned gyfan yn y gwaith o goffáu'r bobl wych sydd wedi cyfrannu at ein gwlad."