Mae angen hyrwyddo dwyieithrwydd mewn ysgolion yn ôl adroddiad pwyllgor

Cyhoeddwyd 30/09/2010   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Mae angen hyrwyddo dwyieithrwydd mewn ysgolion yn ôl adroddiad pwyllgor

30 Medi 2010

Mae angen gwneud mwy i sicrhau bod disgyblion yn cael cyfle i ddysgu ac ymarfer eu Cymraeg yn ein hysgolion, yn ôl ymchwiliad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Heddiw (30 Medi) cyhoeddodd y Pwyllgor Menter a Dysgu, sy’n bwyllgor trawsbleidiol, ei adroddiad sy’n edrych ar ddysgu ac addysgu Cymraeg fel ail iaith.

Casgliadau cyfres o adroddiadau gan Estyn oedd symbyliad y grwp i gynnal yr ymchwiliad. Roedd yr adroddiadau yn tynnu sylw at wendidau difrifol yn y ffordd y caiff Cymraeg fel ail iaith ei addysgu. Dywedodd adroddiad Estyn ar gyfer 2008/9 nad oedd digon o gyfleoedd i ddysgwyr ddefnyddio Cymraeg mewn pynciau eraill, mewn gweithgareddau allgyrsiol ac mewn sefyllfaoedd anffurfiol.

Ymwelodd y grwp o Aelodau’r Cynulliad â sefydliadau addysg a oedd yn cynnig enghreifftiau o arfer da, gan gynnwys Ysgol Gyfun Treorci a’r prosiect Geiriau Bach yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin, fel rhan o’r ymchwiliad. Roeddent yn meddwl yn fawr o’r ethos a’r dulliau a ddefnyddir i wella sut mae disgyblion yn dysgu Cymraeg.

Roedd argymhellion eraill gan yr Aelodau yn cynnwys pennu Cymraeg fel pwnc craidd ar lefel TGAU a bod y Llywodraeth yn cyflwyno cwrs iaith ôl-16 a fyddai’n canolbwyntio ar ddefnyddio Cymraeg fel sgil galwedigaethol.

Roedd yr adroddiad yn nodi newid mewn agweddau tuag at ddysgu Cymraeg, yn dod yn fwy cadarnhaol, ac roedd hefyd am weld diffiniad mwy clir o ysgolion dwyieithog i sicrhau cysondeb ledled Cymru.

Dywedodd Gareth Jones AC, Cadeirydd y Pwyllgor Menter a Dysgu: “Mae llawer o gasgliadau’r ymchwiliad hwn yn creu darlun cadarnhaol o ddysgu Cymraeg.

“Mae’r Pwyllgor yn falch o weld sut mae rhaglenni arloesol yn hybu dysgu Cymraeg mewn rhai rhannau o’r wlad ac rydym yn teimlo bod y rhaglenni hyn yn haeddu cael eu hehangu.

“O dan ein cynigion byddai ysgolion yn cael cymorth a chyngor i sicrhau bod pob polisi addysg yn cyd-fynd â darpariaeth ddwyieithog ac mae fy nghyd-aelodau ar y Pwyllgor yn annog Llywodraeth Cymru i ystyried y syniad hwn.

“Er y daeth ein hymchwiliad o hyd i enghreifftiau o arfer da yn y sector, rydym yn pryderu am y ffaith bod ein casgliadau yn cyd-fynd ag adroddiad tebyg a gyhoeddwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol wyth mlynedd yn ôl.

“Rydym yn gobeithio y bydd Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg newydd Llywodraeth Cymru yn mynd i’r afael â’r materion parhaus hyn i sicrhau bod Cymru ar y trywydd iawn i greu Cymru gwbl ddwyieithog.”

Pwyllgor Menter a Dysgu

Darllen yr adroddiad