Mae angen ‘Hyrwyddwr Rhianta’ i Gymru i sicrhau’r dechrau gorau posibl i’n plant a’n pobl ifanc

Cyhoeddwyd 19/05/2009   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Mae angen ‘Hyrwyddwr Rhianta’ i Gymru i sicrhau’r dechrau gorau posibl i’n plant a’n pobl ifanc

Aelodau'r Pwyllgor yn lansio addroddiad yng Nghanolfan Plant Trelai a Chaerau

Aelodau'r Pwyllgor yn lansio addroddiad yng Nghanolfan Plant Trelai a Chaerau

Mae Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc Cynulliad Cenedlaethol Cymru eisiau i Lywodraeth Cymru benodi ‘hyrwyddwr rhianta’ cenedlaethol.

Byddai gan ddeiliad y swydd y cyfrifoldeb o sicrhau bod pob rhiant yng Nghymru yn gallu cael gafael ar y wybodaeth a’r gwasanaethau sydd eu hangen arnynt i sicrhau bod eu plant yn cael y dechrau gorau posibl mewn bywyd.

Dyma brif argymhelliad adroddiad y Pwyllgor sy’n cael ei gyhoeddi yn dilyn 13 mis o gasglu tystiolaeth.

Ymunodd aelodau’r Pwyllgor â rhieni yng Nghanolfan Blant Trelái a Chaerau i lansio’r adroddiad heddiw (Mai 19).

Mae’n enghraifft o’r hyn y gellir ei gyflawni pan fydd rhieni ifanc yn gallu cael gafael ar y gwasanaethau sydd eu hangen arnynt.

“Mae llawer o waith da yn cael ei wneud mewn canolfannau fel hyn, i gynorthwyo rhieni yng Nghymru”, meddai cadeirydd y Pwyllgor, Helen Mary Jones AC.

“Ond mae llawer o benbleth ynghylch cymorth rhianta, oherwydd nid yw adrannau’r llywodraeth yn siarad â’i gilydd yn effeithiol, ac mae diffyg arweiniad strategol.

“Mae canfyddiad diwylliannol hefyd bod cymorth rhianta yn rhywbeth i deimlo cywilydd yn ei gylch, fel pe bai ar gyfer ‘rhieni sydd wedi methu’ yn unig. Dywedodd nifer o’r rhieni y gwnaethom siarad â hwy yn ystod ein hymchwiliad eu bod yn teimlo cywilydd neu ofn wrth ofyn am gymorth rhianta, pan ddylid eu llongyfarch am geisio darparu’r rhianta gorau posibl ar gyfer eu plant.

“Credwn fod angen i lywodraeth Cymru benodi rhywun blaenllaw, nad yw’n was sifil nac yn Weinidog y llywodraeth, ond a fyddai’n gweithio gyda’r llywodraeth i gydgysylltu cymorth rhianta. Credwn y dylid ei alw’n “hyrwyddwr rhianta”, a byddai’n gyfrifol am roi arweiniad, sicrhau y bydd y gwaith yn cael ei gydgysylltu’n well ar draws adrannau’r llywodraeth, cael gwared ar y stigma a gysylltir â chymorth rhianta, a datblygu ‘Brand Rhianta Cenedlaethol’ cydnabyddedig ar gyfer yr holl weithgareddau a gynhelir i gynorthwyo rhieni.

”Mae effaith rhianta ar blentyn yn drawiadol ac mae’n parhau am oes, gan effeithio ar y cyfraniad mae plentyn yn ei wneud i’w gymdeithas. Fodd bynnag, mae gwerth rhianta’n cael ei anwybyddu yn aml iawn, a dim ond pan aiff rhywbeth o’i le y mae’n cael sylw. Rydym yn pwyso ar lywodraeth Cymru i gymryd yr argymhellion sydd yn yr adroddiad hwn o ddifrif er lles ein plant a fydd, un diwrnod, yn rhieni eu hunain.”

Mae’r adroddiad yn cynnwys 11 o argymhellion i lywodraeth Cymru, ac fe’i seiliwyd ar y dystiolaeth a gafwyd o 4 cyfarfod pwyllgor ffurfiol, cyfarfodydd anffurfiol a gafwyd gyda dros 40 o rieni yng Nghaerdydd a sir y Fflint, a thystiolaeth ysgrifenedig gan dros 30 o gyrff.

Aelodau'r Pwyllgor yn lansio addroddiad yng Nghanolfan Plant Trelai a Chaerau

Aelodau'r Pwyllgor yn lansio addroddiad yng Nghanolfan Plant Trelai a Chaerau