Dylai corff cenedlaethol fod yn gyfrifol am ddarparu gwasanaethau cerddoriaeth ledled Cymru yn ôl un o bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol.
Daeth y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu i'r casgliad bod angen dull newydd radical i achub y sector rhag argyfwng a achosir gan doriadau parhaus i gyllid a symudiadau i guddio'r craciau.
Dywedwyd wrth y Pwyllgor am y dylanwadau cadarnhaol mae plant yn eu cael wrth ddysgu offerynnau cerddorol mewn ysgol, sy'n ymestyn y tu hwnt i gerddoriaeth ei hun i hybu hyder a manteision dyfalbarhad, gwaith tîm ac ymarfer.
Ond clywodd Aelodau hefyd am y gwahaniaethau sylweddol yn y ddarpariaeth o addysg cerddoriaeth mewn rhannau gwahanol o Gymru, a achosir gan doriadau i gyllid, ond hefyd drwy ddiffyg arweinyddiaeth strategol gan Lywodraeth Cymru.
Nododd y Pwyllgor raglen Gwaddol Cenedlaethol ar gyfer Cerddoriaeth a'r Amnest Offerynnau Cerdd Llywodraeth Cymru, a'r dyfarniad o £10,000 i bob awdurdod lleol ar gyfer prynu offerynnau cerddorol, ond cytunodd â thystiolaeth gan randdeiliaid eraill a ddywedodd, "cystal ag ydyw, nid yw'n agos at yr hyn sydd ei angen mewn gwirionedd".
Mae'r Pwyllgor yn argymell y dylid canolbwyntio mwy ar addysgu genres cerddoriaeth modern a phoblogaidd i blant. Er bod genres cerddoriaeth mwy traddodiadol, fel cerddoriaeth glasurol a cherddorfaol, yn parhau i fod yn hollbwysig, byddai canolbwyntio mwy ar gerddoriaeth roc a phop yn cynnig amrywiaeth ehangach o sgiliau ac yn cynnig llwybr mwy cynhwysol a pherthnasol i lawer o ddisgyblion.
Yn ôl Bethan Sayed AC, Cadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, "Fel cerddor a ddaeth drwy'r system addysg cerddoriaeth, rwyf wedi gweld â'm llygad fy hun y gwerth a'r cyfleoedd mae'n ei gynnig.
"O'r herwydd, rwy'n angerddol ynglŷn â'r angen dybryd i gynnal a datblygu cerddoriaeth yng Nghymru ac rydym o'r farn bod angen i ni ddod o hyd i atebion radical yn wyneb toriadau parhaus i'r gwasanaethau hyn.
"Mae'r adroddiad hwn yn canolbwyntio'n benodol ar fynd i'r afael â'r diffygion a sicrhau cysondeb ledled Cymru, er mwyn sicrhau bod pob plentyn, waeth lle maent yn byw na beth yw eu cefndir ariannol, yn cael yr un cyfle i ddatblygu i ragoriaeth.
"Mae'r amser wedi dod, nid i guddio'r craciau, ond i roi digon o adnoddau a chyfeiriad clir i'r sector."
Mae'r Pwyllgor yn gwneud 16 o argymhellion yn ei adroddiad gan gynnwys:
Dylai Llywodraeth Cymru drosglwyddo'r cyfrifoldeb dros ddarparu gwasanaethau cerddoriaeth i gorff cenedlaethol hyd braich sydd â model a phatrwm penodol ar gyfer darpariaeth pob rhanbarth. Dylai'r corff cenedlaethol gael cyllid craidd gan Lywodraeth Cymru a dylid ei wneud yn gyfrifol am sicrhau bod disgyblion a staff sy'n gweithio yn y sector addysg cerddoriaeth, ni waeth lle y maent na beth yw eu cefndir cymdeithasol, yn elwa ar gyfleoedd cyfartal;
Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn cynyddu'n sylweddol y cyllid sydd ar gael i awdurdodau lleol ar gyfer prynu offerynnau cerdd ac yn eu dosbarthu ar sail angen. Dylid gwneud hyn fel mater o frys a dylid ei anelu at wella'r sefyllfa yn y byrdymor, i gwmpasu'r cyfnod cyn bod corff cenedlaethol yn gallu cymryd cyfrifoldeb llawn dros wasanaethau cerddoriaeth; a,
Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru, drwy Gynllun Gweithredu Cenedlaethol ar gyfer Cerddoriaeth yn, darparu cyfeiriad strategol i awdurdodau lleol ac ysgolion ar ffyrdd o integreiddio a hybu'r gwaith o addysgu ffurfiau llai traddodiadol o gerddoriaeth; ac yn annog sefydlu ensembles roc a phop, a chystadlaethau cenedlaethol sy'n seiliedig ar roc a phop.
Darllen yr adroddiad llawn:
Taro’r Tant Ymchwiliad i ariannu addysg cerddoriaeth a gwella mynediad ati (PDF, 1 MB)