Mae angen i Gymru fod yn fwy craff o ran cael cyllid ymchwil yr Undeb Ewropeaidd yn ôl adroddiad gan un o bwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Cyhoeddwyd 25/07/2012   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Mae angen i Gymru fod yn fwy craff o ran cael cyllid ymchwil yr Undeb Ewropeaidd yn ôl adroddiad gan un o bwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru

25 Gorffennaf 2012

Mae un o bwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn galw am wella’r ffordd y mae Cymru yn sicrhau cyllid ar gyfer ymchwil ac arloesi gan yr Undeb Ewropeaidd.

Yn ystod ei ymchwiliad i gynigion deddfwriaethol ar gyfer creu rhaglen newydd i ariannu gwaith ymchwil ac arloesi yn yr Undeb Ewropeaidd, o’r enw ‘Horizon 2020’, a fydd yn olynu’r Rhaglen Ymchwil Fframwaith 7 bresennol, clywodd y Pwyllgor Menter a Busnes bod Cymru yn “tangyflawni” o ran sicrhau cyllid ar gyfer gwaith ymchwil ac arloesi gan yr Undeb Ewropeaidd.

O dan FP7 yn 2007-2013, sicrhaodd Cymru €84 miliwn o gyllid, sef 2.26% yn unig o gyfanswm cyfran y DU. O’u cymharu, sicrhaodd yr Alban 9.4% o’r cyllid.

Dywedodd Prif Gynghorydd Gwyddonol Cymru wrth y Pwyllgor fod angen i Gymru fod yn fwy craff o ran cael gafael ar gyllid drwy raglenni ariannu Ewropeaidd yn y dyfodol.

Mae adroddiad interim y Pwyllgor yn gwneud cyfres o argymhellion, sy’n cynnwys cais i Lywodraeth Cymru gyhoeddi datganiad sy’n nodi ei safbwynt ar gynigion rhaglen Horizon 2020 ac esbonio sut y bydd yn alinio cyllid gan Horizon 2020 a Chronfeydd Strwythurol yr Undeb Ewropeaidd i sicrhau synergedd er mwyn gwella perfformiad Cymru o ran ennill cyllid ymchwil, datblygu ac arloesi.

Bydd deddfwriaeth derfynol y Comisiwn Ewropeaidd yn darparu’r fframwaith y bydd yn rhaid i brifysgolion, canolfannau ymchwil a busnesau Cymru wneud cais iddo i sicrhau cyllid ymchwil yr UE yn 2014-2020.

Dywedodd Nick Ramsay AC, Cadeirydd y Pwyllgor Menter a Busnes: “Mae’r Pwyllgor yn gyffredinol gefnogol i gynigion Horizon 2020. Credwn eu bod yn cynnig her sylweddol ac yn gyfle pwysig i gynyddu’r elfen gystadleuol yn y sector addysg uwch yng Nghymru, ac i gryfhau’r cydweithio rhwng addysg uwch a busnes, yng Nghymru a thramor.”

“Rydym yn cydnabod na fydd llwyddiant Cymru i ddenu cyllid ymchwil yn cael ei drawsnewid yn syth, ond rydym yn gobeithio y bydd Horizon 2020 yn gatalydd i Lywodraeth Cymru, addysg uwch a busnesau weithio gyda’i gilydd i ddatblygu màs critigol ar gyfer gwaith ymchwil ac arloesi er mwyn helpu i drawsnewid economi Cymru yn y dyfodol.”

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am y Pwyllgor Menter a Bunses a chopi o’r adroddiad yma.