“Mae'r ffordd y mae Cymru yn derbyn cyllid yn gymhleth, yn anghyson ac yn aml yn afreolus” - yn ôl Llŷr Gruffydd AS
Mae’r pandemig COVID-19 wedi tynnu sylw at broblemau difrifol o ran y ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn cael cyllid gan Lywodraeth y DU, yn ôl Pwyllgor Cyllid y Senedd.
Dywed y Pwyllgor fod angen i'r mecanweithiau cyllido gael eu hadolygu ar frys gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU gan nad ydyn nhw'n addas at y diben - ac mae COVID-19 wedi tynnu sylw ymhellach at anaddasrwydd elfennau o'r system ariannol, fel fformiwla Barnett, sy'n cyfrifo newidiadau i 'Grant bloc' Cymru.
Cyflwynodd Deddf Cymru 2014 ddatganoli pwerau trethu, gan gynnwys cyfraddau treth incwm Cymru, y Dreth Trafodiadau Tir a’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi. Mae'r Pwyllgor yn hapus â gweinyddiaeth trethi datganoledig ac yn teimlo bod hyn yn gweithio'n dda, gydag Awdurdod Cyllid Cymru yn chwarae rhan hanfodol wrth weithredu trethi Cymru yn llwyddiannus.
Er ei fod yn cydnabod bod cyfyngiadau ar amser Llywodraeth y DU, dywed y Pwyllgor ei fod yn siomedig nad yw Prif Ysgrifennydd y Trysorlys wedi cymryd rhan yn ei ymchwiliad o gwbl. Roedd Deddf Cymru 2014 yn ddarn sylfaenol o ddeddfwriaeth yn y setliad datganoli ac mae rôl Llywodraeth Cymru wrth gyflawni’n llwyddiannus yn gysylltiedig yn gynhenid â Llywodraeth y DU. Mae gwerth y broses graffu yn cael ei danseilio, meddai, gan y diffyg ymgysylltiad gan Lywodraeth y DU.
Gwella ymwybyddiaeth
Er bod ymwybyddiaeth o ddatganoli cyllidol yn cynyddu yng Nghymru, mae'r Pwyllgor yn bryderus o ddeall bod ymwybyddiaeth yn parhau ar lefel isel ymhlith busnesau, gweithwyr proffesiynol a rhanddeiliaid eraill. Mae arolwg Llywodraeth Cymru ei hun yn dangos nad oedd y mwyafrif o ymatebwyr yn gwybod ei bod wedi gallu pennu rhai trethi yng Nghymru ers mis Ebrill 2018.
Dangosodd arolwg cyhoeddus y Pwyllgor ar-lein nad oedd mwy na hanner yr ymatebwyr yn ymwybodol bod Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am rai trethi, gyda dim ond 62% o’r ymatebwyr yn ymwybodol mai Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am Gyfradd Treth Incwm Cymru. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth ei bod yn anodd cynyddu ymwybyddiaeth pan fydd cyfraddau treth yn aros yr un fath â’r hyn oeddent cyn eu datganoli.
Mae'r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cymru a'r Senedd yn parhau i adeiladu ar y wybodaeth a'r ymwybyddiaeth bresennol o drethi Cymru gyda'r cyhoedd, busnesau a gweithwyr proffesiynol i wella ymwybyddiaeth ac ymgysylltiad o ran datganoli cyllidol.
Datblygu'r sylfaen drethu
Mae'r Pwyllgor yn galw am sefydlu strategaethau arloesol i ddatblygu faint o arian y mae Llywodraeth Cymru yn ei dderbyn i’w choffrau o drethi. Mae o’r farn bod yn rhaid i hyn gynnwys gweithredu polisïau i gynyddu cynhyrchiant yng Nghymru, sy'n bwysig ar gyfer cynyddu’r sylfaen drethu, drwy feysydd fel creu swyddi sgiliau da iawn a denu cyflogwyr cynhyrchiant mawr.
Ansicrwydd ar gyfer cyllideb Llywodraeth Cymru
Bu lefel ddigynsail o ansicrwydd ynghylch cyllidebau ac Adolygiadau Gwariant Llywodraeth y DU dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf oherwydd ffactorau fel Brexit, Etholiad Cyffredinol y DU a’r pandemig COVID-19.
Mae'r Pwyllgor yn cydnabod yr anawsterau sy’n deillio o ddarparu setliadau aml-flwyddyn yn yr amgylchiadau presennol. Mae'n siomedig, fodd bynnag, bod Llywodraeth Cymru wedi gorfod llunio cyllideb ddrafft sy’n seiliedig ar setliad refeniw un flwyddyn am y tair blynedd diwethaf, yn enwedig gan fod adrannau fel iechyd ac addysg yn Lloegr wedi cael setliadau aml-flwyddyn.
Er mai mater i Lywodraeth y DU yw amseriad cyllidebau ac adolygiadau gwariant y DU, mae'r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn parhau i alw am fwy o sicrwydd drwy ddyraniadau cyllid aml-flwyddyn, a galw am eglurder ynghylch amseriad digwyddiadau cyllidol y DU oddi wrth Lywodraeth y DU.
Terfynau benthyca cynyddol
Gosododd Llywodraeth y DU derfynau benthyca ar Lywodraeth Cymru, gan gyfyngu ar yr arian y gallai ei godi drwy fenthyca. Clywodd y Pwyllgor nad yw'r terfynau hyn yn gysylltiedig â gallu cyllidol Llywodraeth Cymru neu ag amgylchiadau economaidd sy’n newid yng Nghymru. Mae'r Pwyllgor o'r farn y dylid cynyddu'r terfynau benthyca hirdymor.
Yn y tymor byr mae'r Pwyllgor yn argymell y dylid gweithredu cynnydd dros dro o ran benthyca i gefnogi Llywodraeth Cymru wrth gynllunio adferiad effeithiol yn sgîl COVID-19.
Dywedodd Llŷr Gruffydd AS, Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid:
“Mae'r ffordd y mae Cymru yn derbyn cyllid yn gymhleth, yn anghyson ac yn aml yn afreolus, felly mae gan Lywodraeth Cymru dasg anodd iawn wrth gynllunio ymlaen llaw. Bu’r blynyddoedd diweddar yn gythryblus, gydag Etholiad Cyffredinol y DU yn digwydd yn sydyn, Brexit a COVID-19 yn cael effaith enfawr ar y ffordd y mae cyllid wedi'i ddyrannu i Lywodraeth Cymru i ariannu ei blaenoriaethau a'n gwasanaethau cyhoeddus.
“Mae angen i Lywodraeth Cymru, fel pob llywodraeth, allu gwneud penderfyniadau cyllido hirdymor. Effaith y trefniant cyllido anhrefnus hwn yw bod Llywodraeth Cymru yn ei chael hi'n anodd cynllunio ymlaen llaw, heb wybod beth fydd ei setliad cyllido; mae yna ddiffyg tryloywder hefyd ac mae'n anodd i ni wybod a yw Cymru yn cael ei chyfran deg o gyllid.
“Er mwyn i Gymru ffynnu rhaid i ni allu datblygu ein sylfaen drethu a manteisio ar y trethi datganoledig sydd ar gael. Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu strategaethau arloesol i ddatblygu faint o arian y mae Llywodraeth Cymru yn ei gael.
“Ar hyn o bryd, mae’r terfynau a osodir ar allu Llywodraeth Cymru i fenthyca yn fympwyol, ac nid ydynt yn cydweddu â gallu cyllidol Llywodraeth Cymru na’r amgylchiadau economaidd sy’n newid cymaint. Rydym yn galw am gynyddu'r terfynau hyn.
“Rydym yn pryderu fod y trefniadau cyllido cymhleth ac afreolus sydd ar waith ar hyn o bryd, ynghyd â'r cyfyngiadau ar y gallu i fenthyca yn faen tramgwydd i Gymru ac yn creu sefyllfa anodd i Lywodraeth Cymru gynllunio'n effeithiol ar gyfer y dyfodol. Mae angen newidiadau ar frys.”