Mae angen sail statudol ar fargen gyllido deg i Gymru, yn ôl un o bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol

Cyhoeddwyd 15/03/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 15/03/2016

 

​Mae ar Gymru angen ymrwymiad cadarn, hirbarhaol ynghylch y modd y mae’n cael ei hariannu yn y dyfodol, yn ôl un o bwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
 
Mae’r Pwyllgor Cyllid wedi dod i’r casgliad bod yn rhaid i’r penderfyniad ar yr addasiad o grant bloc Cymru, sef yr arian y mae’n ei gael gan Lywodraeth y DU bob blwyddyn, gael ei wneud yn derfynol cyn i bwerau codi refeniw drwy drethiant gael eu datganoli.
 
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth fod angen i drefniadau rhynglywodraethol rhwng Cymru a San Steffan wella, ac mae’n pryderu, oni bai bod hyn yn digwydd, y bydd y trafodaethau ar yr addasiad o’r grant bloc yn debygol o fod yn hwyr ac efallai na fyddant yn arwain at y canlyniad gorau posibl.
 
Dywedodd Jocelyn Davies AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid: "Bu’n amlwg i ni fel Pwyllgor yn ystod yr ymchwiliad hwn ac ymchwiliadau yn y gorffennol nad oedd y berthynas rhwng Gweinidogion Cymru a Gweinidogion Llywodraeth y DU yn gweithio fel y dylai, ac mae angen mynd i’r afael â hyn".
 
Mae’r Pwyllgor wedi galw am i Gymru gael ei hariannu ar fodel wedi’i seilio ar anghenion.
 
Parhaodd Jocelyn Davies:
 
"Mae’r mater o gyllid ar gyfer Cymru wedi bod yn asgwrn y gynnen ers sefydlu Fformiwla Barnett, y bu amheuaeth yn ei gylch ers peth amser bellach.
 
"Mae cytundeb dros derfyn ariannu isaf rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn gam cadarnhaol, ond daw’r cytundeb hwnnw i ben yn 2020, ac rydym ni o’r farn ei bod yn hollbwysig bod unrhyw gytundeb ynghylch cyllid ar gyfer Cymru yn cael ei roi ar frig yr agenda."
 
Roedd Gerald Holtham, sy’n Economegydd, yn gweithredu fel ymgynghorydd arbenigol i’r Pwyllgor yn ystod yr ymchwiliad, a dywedodd:
 
"Mae’r dystiolaeth a glywodd y Pwyllgor yn dangos nad yw rhai pethau wedi newid ers i’r Comisiwn Annibynnol ar Ariannu a Chyllid i Gymru, y bûm i yn ei gadeirio, gyflwyno ei adroddiad yn 2010. 
 
"Roeddem yn galw am fformiwla seiliedig ar anghenion ar gyfer Cymru bryd hynny, ac ailadroddwn y galwadau hynny chwe blynedd yn ddiweddarach yn yr adroddiad hwn.
 
"Mae’n amlwg, gyda’r newidiadau i ddatganoli cyllidol, fod yr angen am gorff annibynnol i bennu hawliau grantiau bloc ac i ddyfarnu mewn anghydfodau yn bwysicach nag erioed."
 
Mae’r Pwyllgor yn gwneud 17 o argymhellion yn ei adroddiad (PDF, 793KB) gan gynnwys:

  • Bod corff annibynnol yn cael ei greu i roi cyngor ar system dryloyw ar gyfer dyrannu cyllid i’r llywodraethau datganoledig, gan gynnwys i wneud asesiad annibynnol o sut y caiff penderfyniadau gwariant ar gyfer Lloegr eu bwydo i grantiau bloc;
  • Dylai’r broses o ddosbarthu’r grant bloc fod â sail statudol gadarn ac na ddylai fod ar ddisgresiwn y Gweinidog; ac
  • Fel gofyniad lleiaf, fod yn rhaid gwneud penderfyniad egwyddorol ynghylch sut y caiff y grant bloc ei leihau cyn datganoli trethi.

Adroddaid: Y Pwyllgor Cyllid - Dyfodol Cyllido Cymru (PDF, 793KB) 

Rhagor o wybodaeth am y Pwyllgor Cyllid