Mae angen system ‘tocynnau clyfar’ drwy Gymru gyfan erbyn 2018, yn ôl un o bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol

Cyhoeddwyd 18/03/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 18/03/2016

Mae angen system tocynnau clyfar ar gyfer Cymru gyfan, sef system debyg i'r honno sydd ar waith yn Llundain, comisiynydd traffig i Gymru, a strategaeth trafnidiaeth gymunedol newydd i ddatblygu gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru, yn ôl un o bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol.

Mae'r Pwyllgor Menter a Busnes wedi bod yn ystyried gwasanaethau bysiau a thrafnidiaeth gymunedol drwy'r wlad ac wedi dod i'r casgliad bod y gostyngiad mewn  cymorthdaliadau, yn nifer y teithwyr ac yn nifer y gwasanaethau bysiau drwy Gymru yn cael effaith ddifrifol, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig.

Mae'n pryderu y gall pobl, yn enwedig y rhai mwyaf agored i niwed, deimlo'n llawer mwy ynysig.

Clywodd y Pwyllgor am fentrau yn ymwneud â gwasanaethau bysiau mewn ardaloedd fel Essex, Cernyw, Nottingham a Gogledd-ddwyrain Lloegr a allai gynnig gwersi gwerthfawr i Gymru.

Mae mentrau Cymreig fel Bwcabus a menter Traws Cymru hefyd yn dangos yr hyn y gellir ei wneud â chyllideb farchnata, a thrwy fuddsoddi mewn cerbydau, a darparu gwybodaeth well i deithwyr.

Daeth y Pwyllgor i'r casgliad fod gan gynlluniau Trafnidiaeth  Gymunedol rôl bwerus yn y broses, ond mae angen i'r rhai sy'n cynllunio rhwydweithiau trafnidiaeth egluro'r rôl hon yn well. Mae hefyd angen sicrhau bod y rheoliadau'n caniatáu i'r cynlluniau hyn gael eu rhoi ar waith a bod cyfraddau ad-dalu'n caniatáu iddynt weithredu heb wneud colled.

"Bysiau yw'r math o drafnidiaeth gyhoeddus a ddefnyddir amlaf yng Nghymru, ac eto mae'r diwydiant yn wynebu dyfodol ansicr," meddai William Graham AC, Cadeirydd y Pwyllgor Menter a Busnes.

" Mae amrywiaeth o faterion polisi'n tanseilio'r diwydiant bysiau yng Nghymru. Er bod yr angen i gael Comisiynydd Traffig ar gyfer Cymru yn unig, sy'n atebol i Lywodraeth Cymru a'r Cynulliad Cenedlaethol, yn cael ei dderbyn yn gyffredinol, nid oes unrhyw gamau wedi'u cymryd yn y cyswllt hwn. Mae'n hen bryd gwireddu'r cynlluniau i ddatganoli pwerau cofrestru bysiau. "

"Mae angen uchelgais - a dyna pam rydym yn argymell y dylid cyflwyno system tocynnau integredig drwy Gymru erbyn 2018, sef system debyg i honno sydd ar waith  yn Llundain eisoes, lle mae taliadau digyffwrdd â chardiau banc a ffonau clyfar yn gyffredin iawn. Mae'n dechnolegol bosibl a dyna y mae teithwyr am ei gael. Bydd angen i'r Gweinidog Trafnidiaeth yn y Llywodraeth newydd fwrw ymlaen â'r fenter hon o'r diwrnod cyntaf un."  

Mae'r Pwyllgor yn gwneud 12 o argymhellion yn ei adroddiad gan gynnwys:
  • Dylai Llywodraeth Cymru roi system tocynnau integredig ar waith drwy Gymru erbyn 2018 (i gyd-fynd â'r dyddiad y cyflwynir y fasnachfraint rheilffyrdd). Mae angen i'r system gael ei defnyddio ar yr holl wasanaethau bysiau a rheilffordd a'r Metro.
  • Dylai Cymru, fel mater o frys, gael ei Gomisiynydd Traffig ei hun, a fydd wedi'i leoli yng Nghymru ac a fydd yn atebol i Weinidogion Cymru a Chynulliad Cenedlaethol Cymru.
  • Dylai Llywodraeth Cymru ddatblygu Strategaeth Trafnidiaeth Gymunedol mewn ymgynghoriad â'r sector i egluro'i rôl mewn rhwydwaith integredig a dylai weithio gydag awdurdodau lleol i hyrwyddo dealltwriaeth o drafnidiaeth gymunedol a'r hyn y gall ac na all ei wneud.
Adroddiad - Gwasanaethau Bysiau a Thrafnidiaeth Gymunedol yng Nghymru (PDF 930KB)