Mae diwygio’r Senedd yn hanfodol ac yn bosibl erbyn 2026

Cyhoeddwyd 30/05/2022   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 30/05/2022   |   Amser darllen munudau

Mae’n rhaid i newidiadau i gryfhau’r Senedd a chynrychioli pobl Cymru’n well gael eu cyflawni erbyn 2026, ac mae modd eu cyflawni erbyn hynny, yn ôl un o bwyllgorau’r Senedd.

Mae adroddiad newydd y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio’r Senedd, Diwygio Ein Senedd, wedi cynnig pecyn radical o ddiwygiadau a fyddai’n arwain at graffu mwy pwerus ar y llywodraeth, aelodaeth fwy amrywiol gan gynnwys gwell cynrychiolaeth i fenywod, symud oddi wrth y system “aelodau cymysg” bresennol i system bleidleisio gyfrannol, a chynnydd i 96 Aelod. y Senedd ynghyd â diwygiadau ffiniau.

Mae’r Pwyllgor yn argymell bod Cymru’n arwain y ffordd fel y cyntaf o blith seneddau’r DU i gyflwyno cwota rhywedd.

Mae’r Pwyllgor yn argymell yn gryf bod newidiadau’n cael eu cyflwyno ar gyfer etholiadau’r Senedd yn 2026, ac mae wedi nodi amserlen glir i gyflawni hyn, gyda’r disgwyl y bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno Bil diwygio y flwyddyn nesaf.

Dywedodd Huw Irranca Davies AS, Cadeirydd y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd:

“Mae ein hadroddiad yn gosod cynllun ar gyfer Senedd gryfach a fydd yn rhoi llais cryfach i bobl Cymru.

“Mae’r Senedd heddiw yn sefydliad gwahanol iawn i’r un a sefydlwyd dros 20 mlynedd yn ôl. Mae ei phwerau wedi cynyddu i gyd-fynd ag uchelgeisiau ein cenedl fodern a balch. Bellach gall ddeddfu a gosod trethi i Gymru, sef materion sy’n effeithio ar fywydau pob person yng Nghymru.

“Gyda mwy o bwerau, rhaid sicrhau mwy o atebolrwydd. Mae arnom angen senedd a all graffu’n effeithiol ar y penderfyniadau y mae Llywodraeth Cymru yn eu gwneud, ar ran y cyhoedd y mae’n eu gwasanaethu. Nid yw’r system bresennol yn caniatáu i hynny gael ei wneud cystal ag y dylai gael ei wneud.”

“Rydyn ni’n credu bod diwygio’n hanfodol, a bod modd ei gyflawni erbyn 2026.”

Er gwaethaf cyfrifoldebau cynyddol, mae’r Senedd bresennol yn dal i fod yn llai na’r deddfwrfeydd datganoledig eraill. Mae gan Senedd yr Alban 129 o Aelodau ac mae gan Gynulliad Gogledd Iwerddon 90 o Aelodau. Ar hyn o bryd, mae gan y Senedd 60 o Aelodau.

Ychwanegodd Huw Irranca-Davies:

“Bydd y newidiadau yr ydym yn eu hargymell yn gam cadarnhaol tuag at wneud i’n Senedd adlewyrchu cymunedau Cymru yn well. Bydd arwain y ffordd ar gwotâu rhywedd yn rhoi i fenywod – grŵp mwyafrifol yng Nghymru – sicrwydd o gynrychiolaeth deg, a all ond arwain at ganlyniadau gwell a thecach i bob un ohonom.

“Byddai hyn yn hybu taith y Senedd i wneud yn well o ran adlewyrchu profiadau, anghenion a gobeithion y boblogaeth y mae’n ei gwasanaethu, gan helpu pobl i deimlo’u bod yn cael eu cynnwys yn well, a bod eu lleisiau’n cael eu clywed yn well yn y broses ddemocrataidd.”

Yn ôl argymhellion y Pwyllgor, dylid parhau â’r daith tuag at ddiwygio  drwy gyflwyno Bil gan Lywodraeth Cymru y flwyddyn nesaf. Amcangyfrifir y gallai hyn gael Cydsyniad Brenhinol erbyn mis Mai 2024, mewn pryd i ddechrau adolygiad o’r ffiniau, gyda’r nod o gwblhau hyn erbyn mis Ebrill 2025.

Mae'r adroddiad yn cyflwyno cynigion manwl ar gyfer system etholiadol newydd yng Nghymru, gyda'r bwriad o roi mwy o gyfranoldeb ac adlewyrchu ewyllys pobl Cymru yn well. Mae'n argymell defnyddio rhestrau cyfrannol caeedig a bod seddi'n cael eu dyrannu gan ddefnyddio system D'Hondt, sef y system a ddefnyddir ar hyn o bryd ar gyfer rhestrau ranbarthol y system etholiadol bresennol.

Yn ôl ei argymhellion, dylai fod 16 o etholaethau’r Senedd a dylai pob un gael yr un nifer o Aelodau (chwech).

Dylai etholiadau 2026 ddefnyddio’r 32 etholaeth derfynol ar gyfer Senedd y DU a gynigir gan y Comisiwn Ffiniau i Gymru ar ôl iddo gwblhau ei Adolygiad Seneddol yn 2023. Dylid paru'r rhain i greu 16 o etholaethau aml-aelod newydd.

Mae cynnig ar gyfer dadl yn y Cyfarfod Llawn ar adroddiad y Pwyllgor wedi’i gyflwyno ar gyfer 8 Mehefin 2022.

 


 

Diwygio ein Senedd: Llais cryfach i bobl Cymru

Lawrlwythwch yr adroddiad llawn