Cyhoeddwyd 12/10/2006
  |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024
“Mae gwaith y Pwyllgor Archwilio wedi arbed miliynau o bunnoedd o arian cyhoeddus ers datganoli” - adroddiad
Mae gwaith yr Archwilydd Cyffredinol a Phwyllgor Archwilio’r Cynulliad wedi arbed £117 miliwn o arian cyhoeddus yng Nghymru ers dechrau datganoli.
Bydd Jeremy Coleman, yr Archwilydd Cyffredinol, yn cyflwyno
adroddiad ar y gwaith gwerth am arian a chynigion ar gyfer y dyfodol i’r Pwyllgor Archwilio mewn cyfarfod yr wythnos hon.
Mae’r adroddiad yn nodi bod y gwaith archwilio wedi sicrhau gwelliannau mewn gwasanaethau cyhoeddus drwy gynnal ymchwiliadau i sefydliadau fel y GIG, colegau addysg bellach yng Nghymru a Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, yn ogystal ag arbed £117 miliwn a nodi £36 miliwn arall o ran arbedion posibl ar gyfer y dyfodol.
Mae’r adroddiad yn awgrymu meysydd i’r Archwilydd Cyffredinol a’r Pwyllgor ymchwilio iddynt yn y dyfodol. Mae’r rhain yn cynnwys Cymunedau yn Gyntaf, gwasanaethau trenau, mynd i’r afael â chamddefnyddio sylweddau a’r cytundeb ar lwyth gwaith athrawon.
Dywedodd Janet Davies AC, Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio: “Rwy’n croesawu’r adroddiad gan yr Archwilydd Cyffredinol. Mae’n amlwg bod ei waith, ynghyd â gwaith y Pwyllgor, wedi bod o fudd enfawr i Gymru o ran gwella gwasanaethau a sicrhau y caiff arian cyhoeddus ei wario’n ddoeth.
“Mae’r Pwyllgor yn ymrwymedig i ddatblygu ei waith a sicrhau mwy o arbedion yn y meysydd a nodwyd. Rwyf hefyd yn hyderus y bydd ymchwiliadau gan yr Archwilydd Cyffredinol a’r Pwyllgor yn y dyfodol yn arwain at welliannau gwirioneddol mewn gwasanaethau cyhoeddus i bobl Cymru.”
Cynhelir y cyfarfod am 9.30am yn Ystafell Bwyllgora 3, y Senedd, ddydd Iau 12 Hydref.