Mae llwyddiant economaidd Cymru mewn perygl os na fydd llywodraethau’n cydweithio ar drefniadau ariannu yn y cyfnod ar ôl gadael yr UE

Cyhoeddwyd 12/09/2023   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 13/09/2023   |   Amser darllen munudau

Mae Pwyllgor Economi’r Senedd yn galw ar Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i gydweithio’n fwy effeithiol ar y Gronfa Ffyniant Gyffredin a’r Gronfa Ffyniant Bro. 

Mae’r Pwyllgor wedi cynnal ymchwiliad i sut mae’r cronfeydd hyn yn cael eu dosbarthu a’u gweinyddu ledled Cymru, yn dilyn ymadawiad y DU â’r UE.

Mae adroddiad y Pwyllgor heddiw yn amlinellu’r problemau cychwynnol ac yn argymell ffyrdd o wella’r modd y caiff arian ei ddosbarthu, ac yn galw am fwy o gyfraniad gan Lywodraeth Cymru yn y gwaith o gynllunio a chyflwyno cronfeydd yn y dyfodol. Mae hefyd yn gofyn am eglurder gan Lywodraeth y DU ynghylch a fydd y cronfeydd hyn yn parhau ar ôl 2025. 

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan amrywiaeth eang o bobl, Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, cynghorau lleol, academyddion blaenllaw a’r rhai sydd wedi cael arian. 

Dywedodd Paul Davies AS, Cadeirydd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, y canlynol: 

“Yn dilyn ymadawiad y DU â’r UE, ac ers cyflwyno’r Gronfa Ffyniant Bro a’r Gronfa Ffyniant Gyffredin, rydym wedi nodi nifer o broblemau cychwynnol. Mae ariannu datblygiad economaidd yng Nghymru yn gyfrifoldeb a rennir, mae’n flaenoriaeth i bawb. Er mwyn i gyllid datblygu weithio i bobl Cymru, mae’n rhaid i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru gydweithio’n fwy effeithiol. 

“Rhaid i’r broses hon hefyd barhau i gynnwys cynghorau lleol sydd mewn sefyllfa dda i ddeall eu cymunedau, ac sydd wedi gweithio’n galed i gyflwyno ceisiadau i’r Gronfa Ffyniant Bro, ac i roi’r Gronfa Ffyniant Gyffredin ar waith yn eu hardaloedd lleol.  

“Ond yn hollbwysig, rhaid i bob sefydliad gael cyfle teg i gael budd o’r Gronfa Ffyniant Gyffredin. Rydym wedi clywed am yr heriau a wynebir gan rai cyrff yn y sector gwirfoddol, prifysgolion a cholegau o ran cael mynediad at gyllid, ac am bryderon bod rhai awdurdodau lleol yn blaenoriaethu eu prosiectau eu hunain.  

“Mae angen i sefydliadau hefyd wybod y bydd y cymorth yn parhau ac mae angen sicrwydd ar bobl. Rhaid inni gael sicrwydd gan Lywodraeth y DU y bydd cyllid yn parhau y tu hwnt i 2025, pan fydd y cylch ariannu presennol hwn yn dod i ben. 

“Rydym ar gam cynnar yn y broses, ond mae llwyddiant economaidd Cymru mewn perygl os na fydd llywodraethau’n cydweithio ar drefniadau ariannu yn y cyfnod ar ôl gadael yr UE. Dyna pam rydym heddiw yn gwneud nifer o argymhellion i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i werthuso’r hyn sy’n digwydd a gwella’r system ar gyfer y blynyddoedd i ddod.” 

Mae adroddiad heddiw, Cyllid datblygu rhanbarthol ar ôl gadael yr UE, yn nodi rhestr o argymhellion ar gyfer Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru:

  • Dylai Llywodraeth Cymru chwarae mwy o ran yn y gwaith o ddatblygu a chyflwyno’r cronfeydd
  • Dylid ystyried maint poblogaeth ardaloedd difreintiedig mewn rowndiau ariannu ar gyfer y Gronfa Ffyniant Gyffredin yn y dyfodol
  • Adolygiad o sut mae’r Gronfa Ffyniant Gyffredin yn cael ei darparu’n lleol, yn rhanbarthol ac ar draws Cymru, yn seiliedig ar yr hyn sy’n gweithio orau
  • Creu corff Cymru gyfan i gydgysylltu cyllid yn rhanbarthol
  • Cytuno ar gyfnodau ariannu hirach ar gyfer y Gronfa Ffyniant Gyffredin er mwyn gwella’r broses gynllunio a chyflwyno
  • Gwerthuso’r Gronfa Ffyniant Gyffredin gyda mewnbwn gan sefydliadau yng Nghymru a chyhoeddi’r gwersi a ddysgir
  • Dylai pob sefydliad gael cyfle teg i gael budd o’r Gronfa Ffyniant Gyffredin.
  • Dylai'r ddwy lywodraeth weithio gyda'i gilydd i sicrhau’r gyfran fwyaf posibl i Gymru o wariant ar ymchwil ac arloesi
  • Dylai llywodraethau ddatblygu cynllun tymor hwy i ddiogelu ymchwil ac arloesi yn y sector addysg uwch yng Nghymru
  • Os bydd y Gronfa Ffyniant Bro yn parhau ar ôl 2025, ni ddylai gael ei darparu drwy geisiadau cystadleuol - dylid dyrannu cyllid i’r ardaloedd hynny sydd â’r angen mwyaf
  • Dylai Llywodraeth Cymru gymryd mwy o ran yn y gwaith o ddatblygu a gweinyddu’r Gronfa Ffyniant Bro os bydd yn parhau y tu hwnt i 2025
  • Dylai Llywodraeth y DU nodi’n glir ei bwriad ar gyfer cyllid ar ôl 2025 cyn gynted â phosibl

 


 

Mwy am y stori hon

Cyllid datblygu rhanbarthol ar ôl gadael yr UE

 

Lawrlwytho’r Adroddiad