“Mae llywodraeth leol yn bwysig i bawb.” – John Griffiths AC

Cyhoeddwyd 22/11/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 05/12/2019

​Y Cynulliad Cenedlaethol yn lansio arolwg cyhoeddus ar Lywodraeth Leol 


Wrth i Lywodraeth Cymru gyflwyno ei Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau yr wythnos hon, cynigiwyd newidiadau i bwy sy'n gallu pleidleisio yn etholiadau cynghorau, sut mae awdurdodau lleol yn ymgysylltu â'r cyhoedd a sut maen nhw'n gweithio gyda'i gilydd. Nawr, mae'n fater i'r Cynulliad Cenedlaethol ystyried y cynigion a chraffu ar y Bil.

Bydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau yn ymgynghori â'r cyhoedd ac yn gwahodd arbenigwyr i roi sylwadau ar y cynigion. Yna bydd yn adrodd ar ei ganfyddiadau, ac yn gwneud argymhellion i Lywodraeth Cymru.

Mae cynigion y Bil yn cynnwys:
  • Galluogi pobl ifanc 16 a 17 oed a dinasyddion tramor sy'n byw yng Nghymru i bleidleisio yn etholiadau’r cyngor
  • Caniatáu i bob un o'r 22 cyngor yng Nghymru benderfynu pa system bleidleisio i'w defnyddio - system y cyntaf i’r felin neu’r bleidlais sengl drosglwyddadwy, a ystyrir i fod yn system o gynrychiolaeth gyfrannol
  • Ei gwneud hi'n haws i bobl gael eu cynnwys ar y gofrestr etholiadol, trwy roi'r pŵer i swyddogion cofrestru etholiadol ychwanegu pobl at y gofrestr, heb fod angen iddynt wneud cais
  • Galluogi treialu diwygiadau i etholiadau llywodraeth leol ar ôl 2022, megis cynnal etholiadau ar wahanol ddiwrnodau a chael gorsafoedd pleidleisio mewn gwahanol fannau
  • Ei gwneud yn ofynnol i gynghorau gyhoeddi strategaeth cyfranogiad cyhoeddus a sefydlu cynllun deisebau
  • Creu pwerau i hwyluso uniad gwirfoddol cynghorau ac ailstrwythuro ardaloedd awdurdod lleol
Annog pobl leol i gyfrannu at lywodraeth leol
Heddiw, mae'r Pwyllgor yn lansio ymgynghoriad ar y Bil cyfan ynghyd ag arolwg cenedlaethol, yn gofyn beth yw barn pobl am gynyddu cyfranogiad y cyhoedd mewn democratiaeth leol a gwella tryloywder.

Cyflwynwyd y Bil gyda'r nod o roi ffyrdd newydd, gwell i lywodraeth leol ymgysylltu â chymunedau. Mae hefyd yn ceisio sicrhau bod dinasyddion yn cael gwybod am benderfyniadau a wneir gan awdurdodau lleol sy’n effeithio ar eu bywydau, ac yn cael cyfleoedd i roi eu barn ar y penderfyniadau hynny.

Meddai John Griffiths AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau

“Mae llywodraeth leol yn bwysig i bawb. Efallai na fyddwn ni bob amser yn sylweddoli, ond mae'n cyffwrdd â'n bywydau mewn rhyw ffordd, bob dydd.

“Mae’n bwysig inni edrych ar sut mae cynghorau’n ymgysylltu â’r cyhoedd, oherwydd mae eu penderfyniadau yn effeithio ar ein bywydau o ddydd i ddydd. O sut y caiff ein sbwriel ei gasglu a'i ailgylchu a sut mae ffyrdd yn cael eu cynnal, i sut y caiff y bobl fwyaf agored i niwed ofal a sut y cânt eu gwarchod.

“Mae'r ffyrdd rydyn ni'n byw ac yn gweithio yng Nghymru yn newid yn gyson. Gall technolegau newydd, toriadau i wasanaethau cyhoeddus a'n perthnasoedd â'r rhai sy'n cefnogi ac yn gwasanaethu ein cymunedau ei gwneud hi'n anodd i lywodraeth leol barhau i ymateb i’r fath newid.

“Mae'r Bil hwn yn ymdrin ag ystod eang o faterion yn ymwneud â llywodraeth leol. Mae'r rhain yn faterion pwysig, a'n rôl ni yw sicrhau y cynhelir gwaith craffu trylwyr ar y cynigion.

“Heddiw, rydyn ni'n galw ar bobl Cymru i ddweud wrthym beth yw eu barn am gynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer dyfodol llywodraeth leol.”