“Mae mwy o amrywiaeth yn arwain at well penderfyniadau” – pwyllgor newydd Cynulliad yn edrych ar wella cynrychiolaeth yn y Senedd

Cyhoeddwyd 11/03/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 11/03/2020

​Heddiw, lansiodd Pwyllgor y Cynulliad Cenedlaethol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad ymgynghoriad ar amrywiaeth y Cynulliad ac mae'n edrych ar fesurau i wella cynrychiolaeth y sefydliad yn y dyfodol.

Sefydlwyd y Pwyllgor ym mis Medi 2019 i ymchwilio i argymhellion y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad ynglŷn â maint y Cynulliad a sut mae Aelodau'n cael eu hethol. Mae'n gofyn am dystiolaeth i lywio ei ymchwiliad i ethol Cynulliad mwy amrywiol.

Mae tystion eisoes wedi dweud wrth y Pwyllgor nad yw'r Cynulliad yn ddigon amrywiol. Mae'r Pwyllgor hefyd wedi clywed tystiolaeth y gallai ethol Cynulliad mwy amrywiol gynyddu pa mor effeithiol yw'r gwaith craffu a gwella'r broses o wneud penderfyniadau.

Mae ymgynghoriad y Pwyllgor yn canolbwyntio ar y naw nodwedd warchodedig a sefydlwyd yn Neddf Cydraddoldeb 2010 (oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol) yn ogystal ag amrywiaeth yn ehangach fel cefndiroedd economaidd-gymdeithasol a phroffesiynol pobl.

Mae awgrymiadau i wella amrywiaeth y Cynulliad wedi cynnwys cyflwyno cwotâu, caniatáu i Aelodau'r Cynulliad rannu swyddi, neu ddarparu cyllid ychwanegol i helpu pobl o grwpiau a dangynrychiolir i sefyll etholiad.

Bydd y Pwyllgor yn edrych y canlynol:

  • Ei gwneud yn ofynnol i bleidiau gwleidyddol gyhoeddi data amrywiaeth ar ymgeiswyr
  • Rhannu swyddi Aelodau'r Cynulliad
  • Cwotâu etholiadol, fel cwotâu rhyw wedi'u hymgorffori yn y system etholiadol
  • Rhwystrau sy'n annog pobl o grwpiau a dangynrychiolir i beidio ag ymuno â phleidiau gwleidyddol neu gymryd rhan mewn gwleidyddiaeth plaid
  • Cyllid a chefnogaeth ychwanegol y gellid eu darparu i helpu pobl o grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol i sefyll etholiad

Dawn Bowden AC, Cadeirydd y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad:

"Rydym wedi clywed tystiolaeth bod mwy o amrywiaeth ymysg y rhai sy'n gwneud penderfyniadau yn arwain at well penderfyniadau. Mae'n bwysig i ni y dylai'r Cynulliad fod mor gynrychioliadol o bobl Cymru â phosibl. I wneud hyn, mae'n rhaid i ni fynd at wraidd y mater o ran sut y gall pobl o grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol oresgyn y rhwystrau a allai eu hatal rhag sefyll mewn etholiad.

"Mae cael Aelodau o gefndiroedd amrywiol yn gwella gwaith y Cynulliad a'r ffordd y mae'n cynrychioli pobl Cymru. Bydd Cymru yn decach os bydd pobl o ystod o gymunedau a chefndiroedd amrywiol yn gallu cymryd rhan yn y broses wleidyddol.

"Rydyn ni wedi cynllunio ein hymgynghoriad fel y gall unrhyw un sydd am gyfrannu at ein gwaith wneud hynny. Rydym am glywed cymaint o safbwyntiau â phosibl ar sut y gallwn wella amrywiaeth a sicrhau bod y Cynulliad wir yn cynrychioli pob cymuned yng Nghymru."