Mae’n rhaid i Gomisiwn Coedwigaeth Cymru fynd i’r afael â ‘methiannau systematig’ mewn rhaglenni ariannu - medd un o adroddiadau’r Cynulliad Cenedlaethol

Cyhoeddwyd 08/02/2011   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Mae’n rhaid i Gomisiwn Coedwigaeth Cymru fynd i’r afael â ‘methiannau systematig’ mewn rhaglenni ariannu - medd un o adroddiadau’r Cynulliad Cenedlaethol

8 Chwefror 2011

Mae angen i Gomisiwn Coedwigaeth Cymru dynhau ei brosesau ar gyfer dyfarnu cymorthdaliadau, yn ôl adroddiad gan Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Daeth ei ymchwiliad yn dilyn deiseb a dderbyniodd Pwyllgor Deisebau’r Cynulliad gan bobl a oedd yn anhapus bod mwy na hanner miliwn o bunnoedd mewn cyllid wedi’i dalu i grwp ar gyfer prynu coetir yn eu cymuned yng ngogledd Sir Benfro yn 2006.

Diben yr arian, o Raglen Cydcoed II y Comisiwn Coedwigaeth, oedd darparu mynediad i ardaloedd gwyrdd neu goediog neu eu gwella, ar gyfer cymunedau mewn ardaloedd difreintiedig o Gymru.

Canfu’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus fod y Comisiwn Coedwigaeth wedi methu yn ei ddyletswydd i ymgynghori’n briodol â’r gymuned leol yn yr achos hwn, ac nad oedd wedi mynd drwy’r broses gywir a phriodol i sicrhau gwerth am arian cyhoeddus.

Dywedodd Darren Millar AC, Cadeirydd y Pwyllgor: “Mae ein canfyddiadau’n cefnogi rhai adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru a oedd hefyd yn codi pryderon am y ffordd yr oedd Comisiwn Coedwigaeth Cymru wedi gweithredu ei raglen Cydcoed.

“Er ein bod wedi cael sicrwydd bod gwersi wedi’u dysgu o’r profiad penodol hwn rydym yn parhau i bryderu sut y caniatawyd i’r methiannau hyn ddigwydd yn y lle cyntaf ac am y ffordd y caiff rhaglenni cymorthdaliadau eu trin gan Gomisiwn Coedwigaeth Cymru heddiw.


“Mae gan gyrff cyhoeddus sy’n gyfrifol am drin arian y trethdalwyr ddyletswydd i ddefnyddio’r arfer gorau er mwyn sicrhau ein bod yn gweld gwerth am arian. Yn yr achos hwn, disgynnodd Comisiwn Coedwigaeth Cymru yn llawer is na’r disgwyliadau ac mae bellach yn wynebu’r dasg o adfer hyder y cyhoedd.”

DIWEDD