Mae’n rhaid i gyfraith newydd wneud mwy i warchod amgylchedd Cymru, meddai pwyllgor Cynulliad

Cyhoeddwyd 12/10/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 12/10/2015

 

Mae Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd y Cynulliad Cenedlaethol wedi galw am gryfhau Bil yr Amgylchedd (Cymru) drwy ddarpariaethau ychwanegol i warchod bioamrywiaeth, a sicrhau bod modd mesur cynnydd.

Dywedodd Alun Ffred Jones AC, Cadeirydd y Pwyllgor:

"Rydym yn croesawu ymgais y Bil i greu fframwaith gwell ar gyfer rheoli adnoddau naturiol Cymru. Fodd bynnag, nid ydym yn credu bod y drafft presennol yn gwneud digon i atal colledion bioamrywiaeth yn sylweddol yng Nghymru.

"Un elfen allweddol o ran sicrhau bod fframwaith y Bil hwn yn llwyddo yw sicrhau y gallwn fesur ei effaith. Rydyn ni wedi gofyn am gysylltu polisïau a dyletswyddau adrodd â rhestr o rywogaethau a chynefinoedd sy'n cael blaenoriaeth er mwyn gallu monitro cynnydd yn y maes pwysig hwn."

Mae'r Pwyllgor hefyd yn gwneud argymhelliad pwysig ynghylch diben cyffredinol Cyfoeth Naturiol Cymru.

Dywedodd Alun Ffred Jones, Cadeirydd y Pwyllgor:

"Ers creu Cyfoeth Naturiol Cymru, mae rhanddeiliaid a hyd yn oed rhai aelodau o'i staff wedi cael trafferth deall beth yw diben y corff.

"Rydym yn credu y bydd ein hargymhelliad, sef cysylltu prif amcan Cyfoeth Naturiol Cymru â nod llesiant 'Cymru Gydnerth', yn gwneud pethau'n llawer mwy eglur i Cyfoeth Naturiol Cymru a'i randdeiliaid."

Yn ogystal â chynnig newidiadau i'r ffordd y caiff adnoddau naturiol eu rheoli, mae'r Bil yn ceisio cyflwyno cyfreithiau mewn nifer o feysydd eraill, gan gynnwys newid yn yr hinsawdd, rheoli gwastraff, pysgodfeydd ar gyfer pysgod cregyn a thrwyddedu morol.

O safbwynt newid yn yr hinsawdd, mae'r Pwyllgor yn croesawu cyflwyniad targed 2050 ar gyfer lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr.

 

Dywedodd y Cadeirydd:

"Rydym yn falch bod Cymru wedi ymuno â'r Alban a'r Deyrnas Unedig i ddeddfu ar gyfer torri 80% ar allyriadau tŷ gwydr erbyn 2050.

"Dylid defnyddio'r cyfnodau gwelliannau i gryfhau agweddau ar hyn. Yn arbennig, hoffem weld pŵer i ganiatáu i Weinidogion Cymru gynyddu'r targed os yw canfyddiadau gwyddonol yn dangos bod angen gwneud hynny."

O safbwynt gwastraff, argymhellodd y Pwyllgor na ddylid newid y cynllun presennol o godi tâl am fagiau siopa untro, ond y dylid cyfeirio unrhyw dâl newydd (e.e. am 'fagiau am oes') i achosion amgylcheddol ac elusennau sy'n gweithredu yng Nghymru.

Hefyd, galwodd ar y Llywodraeth i weithio gyda busnesau y bydd cynigion i wahardd deunyddiau penodol o losgyddion a gwastraff bwyd o garthffosydd yn effeithio arnynt.

Yn ogystal â dod i gasgliadau am y meysydd polisi sy'n destun y Bil, mynegodd y Pwyllgor beth pryder am helaethder y materion sydd yn y Bil a'r ffordd y ceisiwyd cydsyniad deddfwriaethol, ac na roddwyd y cydsyniad hwn, ar gyfer adran o Fil yr Amgylchedd (Cymru).

Wrth gytuno ag egwyddorion cyffredinol y Bil, dywedodd y Pwyllgor ei bod yn anffodus na chafodd y mater o gydsyniad ynghylch targedau bioamrywiaeth ar gyfer awdurdodau lleol ei ddatrys cyn cyflwyno'r Bil.

Galwodd am gyhoeddi gohebiaeth rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, a bod hyn ar gael i'r cyhoedd.

Mae'r Pwyllgor yn argymell, os na fydd cydsyniad yn cael ei roi cyn i'r Cynulliad orffen trafod y Bil, y dylid ei ddiwygio fel bod y ddyletswydd ar fioamrywiaeth yn berthnasol i gyrff cyhoeddus datganoledig Cymru yn unig.

Bydd y Cynulliad llawn yn trafod Bil yr Amgylchedd (Cymru) ar 20 Hydref 2015 cyn bwrw pleidlais ynghylch a ddylai fynd ymlaen i'r cyfnod nesaf ym mhroses ddeddfu'r Cynulliad.

​Bil yr Amgylchedd (Cymru) - Adroddiad Cyfnod 1 y Pwyllgor

Cewch fwy o wybodaeth am Fil yr Amgylchedd (Cymru) a chanfyddiadau'r Pwyllgor ar flog Gwasanaeth Ymchwil y Cynulliad Cenedlaethol.

Lluniau: Kris Williams (Flickr), Bear Faced (Flickr) and John McGarvey (Flickr) dan drwydded Creative Commons.