Darnau punt a nodyn pum punt.

Darnau punt a nodyn pum punt.

“Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru symleiddio budd-daliadau i leddfu’r argyfwng costau byw” - Pwyllgor Economi y Senedd

Cyhoeddwyd 28/07/2022   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 01/08/2022   |   Amser darllen munudau

Mae Llywodraeth Cymru wedi’i chyhuddo o wneud budd-daliadau datganoledig yng Nghymru yn rhy gymhleth mewn adroddiad a lansiwyd heddiw gan Bwyllgor Economi, Masnach a Materion Gwledig y Senedd.

Mae’r Pwyllgor wedi bod yn edrych ar frys ar yr heriau sy’n wynebu pobl yn ystod yr argyfwng costau byw, gan rybuddio Llywodraeth Cymru y gallai pobl fod ar eu colled o ran gwasanaethau allweddol oherwydd system or-gymhleth.

Budd-daliadau yng Nghymru

Ar hyn o bryd, caiff budd-daliadau a ariennir gan Lywodraeth Cymru eu talu mewn sawl ffordd wahanol. Mae’r Pwyllgor yn galw ar Lywodraeth Cymru i archwilio’r syniad o lunio porth un stop i aelwydydd ledled Cymru wneud cais yn uniongyrchol am y gwahanol gynlluniau sydd ar gael drwy brawf modd.

Yn ôl yr adroddiad, byddai hyn nid yn unig yn gwneud y broses yn haws ond yn cynyddu’r nifer sy’n manteisio ar y budd-daliadau dan sylw, ac yn helpu i roi terfyn ar y loteri cod post o ran systemau sy’n amrywio fesul ardal awdurdod lleol ar hyn o bryd.

Mae’r Pwyllgor yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried ehangu meini prawf cymhwysedd ei chynlluniau sydd ar gael drwy brawf modd i gefnogi aelwydydd incwm is wrth iddynt wynebu costau byw, biliau ynni a phrisiau bwyd sy’n cynyddu’n aruthrol.

Cefnogi cymunedau gwledig

Mae cartrefi nad ydynt ar y grid yng nghefn gwlad Cymru yn talu “premiwm gwledig”, yn ôl yr adroddiad, gyda chostau fel prisiau olew gwresogi wedi cynyddu 128 y cant yn ystod y 12 mis diwethaf a diffyg cymorth ar lawr gwlad.

Mae’r Pwyllgor yn beirniadu Llywodraeth Cymru ac yn awgrymu mai dim ond 2,000 o'r 275,000 o gartrefi nad ydynt ar y grid sy’n gallu manteisio ar ymyriadau drwy dalebau fel y gronfa cymorth dewisol. Mae'n dweud bod yn rhaid i gymorth cadarn fod ar gael i ddefnyddwyr nad ydynt ar y grid cyn y gaeaf a bod angen cymorth tymor hwy ar gyfer cartrefi anoddach eu cyrraedd.

 

Pobl mewn gwaith

Mae’r adroddiad hefyd yn nodi bod yn rhaid gwneud mwy i gefnogi pobl mewn gwaith sy’n ei chael hi’n fwyfwy anodd, ac yn galw ar bob sefydliad yn y sector cyhoeddus yng Nghymru i dalu’r cyflog byw gwirioneddol. Mae’r Pwyllgor yn tynnu sylw at sefydliadau fel awdurdodau lleol a byrddau iechyd, y mae’n rhaid iddynt godi cyflogau a gwella amodau fel tâl salwch.

Heb ymyriadau i ymdrin â chostau byw, mae’r adroddiad yn rhybuddio y bydd mwy o achosion o weithwyr yn wynebu afiechyd meddwl oherwydd y pwysau ariannol cynyddol. Mae’r Pwyllgor yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda phartneriaid i gefnogi pobl sydd eisoes yn dioddef.


Busnes

Galwodd y Pwyllgor am ymyriadau i sicrhau fod busnesau yn goroesi’r cynyddiad yng nghostau byw. Mae’r Aelodau yn galw am fesuriadau byr-dymor yn debyg i’r gefnogaeth derbyniodd busnesau yn ystod Covid, ac yna cynlluniau hir-dymor i leihau dibyniaeth ar olew a nwy.

 


 

   

 

  Paul Davies AS

  Cadeirydd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig

 

 

 

“Gellir gweld effaith costau byw cynyddol ledled Cymru.

“Er bod Llywodraeth Cymru yn ceisio cefnogi pobl drwy’r argyfwng, mae ein hymchwiliad wedi dangos nad yw’r gefnogaeth honno’n cyrraedd digon o bobl – mae’r budd-daliadau sydd ar gael yn gymhleth a gall hynny effeithio ar y nifer sy’n manteisio arnynt. Mae angen inni weld system symlach, fel bod y cynlluniau’n gliriach ac yn fwy hygyrch, i gynyddu’r nifer sy’n manteisio arnynt.

“Mae’r Pwyllgor o’r farn y dylai Llywodraeth Cymru ddefnyddio ei ‘phŵer meddal’ sylweddol i wella telerau ac amodau'r bobl sy’n ennill y cyflogau isaf; er enghraifft, drwy wella tâl salwch gweithwyr gofal cymdeithasol a rhoi cyflog teg i’r bobl sy’n cael eu talu o’r pwrs cyhoeddus.

“Rwy’n arbennig o bryderus am effaith costau cynyddol tanwydd gwresogi. Rwy’n annog Llywodraeth Cymru i weithredu cyn y gaeaf i gefnogi pobl sy’n byw mewn cartrefi gwledig nad ydynt ar y grid.”

 



Gyda chyfraddau uchel o chwyddiant, y bobl sy’n ennill y cyflogau isaf sy’n ysgwyddo’r pwysau trymaf, ac mae’r adroddiad rydym yn ei gyhoeddi heddiw, sy’n cynnwys 27 o argymhellion, yn amlinellu sut y mae’n rhaid gwneud mwy i gefnogi’r bobl sydd o dan bwysau.

 

Mwy am y stori hon

Pwysau costau byw: Darllenwch yr adroddiad

Ymchwiliad: Pwysau costau byw