Mae'n rhaid i S4C fod yn barod ar gyfer dyfodol digidol, yn ôl Pwyllgor y Cynulliad

Cyhoeddwyd 03/08/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 03/08/2017

​Mae perthynas Llywodraeth y DU ag S4C wedi bod yn un o esgeulustod diniwed am gyfnod rhy hir, ac mae'n rhaid i adolygiad arfaethedig yr Adran Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon sicrhau ei fod yn gallu ffynnu mewn  amgylchedd cynyddol gystadleuol ar gyfer darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus, yn ôl Pwyllgor y Cynulliad.

Cynhaliodd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ymchwiliad i ddyfodol S4C i sicrhau bod barn o Gymru yn rhan o adolygiad arfaethedig Adran Digidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon Llywodraeth y DU ar y darlledwr. 

Mae eu hadroddiad yn dweud bod yn rhaid i adolygiad Llywodraeth y DU gydnabod maint y toriadau y mae S4C wedi'u hwynebu ers 2011 gyda chyllid yn y dyfodol yn seiliedig ar ddiffiniad clir o'r hyn y mae disgwyl i'r darlledwr ei gyflwyno, ar lefel sy'n sicrhau y gall fodloni'r gofynion hyn.

Mae'r Pwyllgor hefyd yn credu bod angen diogelu sefyllfa S4C fel sefydliad a darlledwr annibynnol.  Fodd bynnag, mae rhaid i'w strwythur rheoleiddio a rheoli newid. Dylai Ofcom fod yn gwbl gyfrifol am reoleiddio S4C o dan drefniant trwydded gwasanaeth a dylai'r sianel gael ei rheoli gan fwrdd unedol, wedi'i ddiogelu gan statud neu Siarter, yn debyg i ffurf model presennol y BBC.

Mae argymhellion eraill yr adroddiad yn cynnwys:    

  • Dylai cylch gwaith S4C gael ei ddiwygio er mwyn dileu'r cyfyngiadau daearyddol a theledu yn unig cyfredol, a chynnwys gofyniad penodol i hybu a meithrin yr iaith Gymraeg;
  • Dylai S4C allu gweithio gyda chynhyrchwyr annibynnol i nodi potensial masnachol a chynnwys y farchnad, gan rannu'r risgiau a'r manteision ariannol; ac
  • Dylai fod yn ofynnol i bob darlledwr yn y sector cyhoeddus yng Nghymru ddarparu rhan o'u cynnwys yn y Gymraeg. 

Dywedodd Bethan Jenkins AC, Cadeirydd y Pwyllgor:

"Ym mis Ionawr eleni, dywedodd y Gweinidog dros Ddigidol a Chyfathrebu, Matt Hancock AS y byddai eu hadolygiad o S4C yn cael ei gyhoeddi 'cyn hir'.  Saith mis yn ddiweddarach, rydym yn dal i aros.  Mae'r diffyg cynnydd hwn yn siomedig.

"Ar hyn o bryd, mae deddfwriaeth ar S4C yn canolbwyntio ar ei rôl yn darparu darlledu ar y teledu; ond rydym yn gwybod bod cynulleidfaoedd modern yn defnyddio cynnwys ar eu ffonau ac yn gwylio rhaglenni ar-alw. 

"Ers 2011, mae cyllideb S4C wedi gostwng £20 miliwn; mae hynny heb ystyried chwyddiant.  Os yw S4C yn mynd i oroesi a ffynnu i hyrwyddo iaith a diwylliant Cymru, rhaid iddo  allu cystadlu am gynulleidfaoedd ar-lein heb gael ei gyfyngu gan gylch gwaith sydd wedi dyddio a chyllideb sy'n crebachu.
 

"Nid yw cylch gwaith S4C wedi cael ei adolygu ers 2004. Mae darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus eraill wedi gallu targedu rhaglenni ar gyfer cynulleidfaoedd penodol yn ôl demograffeg ac ar-lein.  Mae hyn yn rhywbeth sydd wedi bod yn anodd i S4C ei wneud.  Mae hyn yn rhannol oherwydd ei faint a'i gyllideb sy'n crebachu ond hefyd oherwydd ei fod yn cael ei rwystro gan gylch gwaith sydd wedi dyddio sy'n cyfeirio at ddarlledu ar y teledu yn unig ac yn ei gwneud yn anodd i dargedu cynulleidfaoedd ar lwyfannau eraill, neu siaradwyr Cymraeg sy'n byw tu allan i Gymru."   


Darllen yr adroddiad llawn:

Tu allan i'r Bocs: Dyfodol S4C (PDF, 1.09 MB)