Mae’r Cynulliad wrth galon ymgysylltiad â dinasyddion ac wedi ystyried dros 200 o ddeisebau

Cyhoeddwyd 29/03/2011   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Mae’r Cynulliad wrth galon ymgysylltiad â dinasyddion ac wedi ystyried dros 200 o ddeisebau

29 Mawrth 2011

Barnwyd bod system ddeisebau Cynulliad Cenedlaethol Cymru’n llwyddiant, yn ôl adroddiad sy’n cymryd golwg ar ei gwaith dros y pedair blynedd gyntaf.

Mae’r Cynulliad yn un o ddim ond dwy ddeddfwrfa yn y DU (yr Alban yw’r llall) i fabwysiadu system ddeisebau, ac, ers ei rhoi ar waith yn 2007, mae ei Bwyllgor Deisebau wedi ystyried 215 o ddeisebau ar bynciau’n amrywio o doiledau cyhoeddus i geffylau dan ddaear.

Mae’r Pwyllgor trawsbleidiol hefyd wedi cynnal 64 o gyfarfodydd cyhoeddus ac wedi clywed tystiolaeth lafar gan 38 o ddeisebwyr.

Sefydlwyd y system i alluogi’r cyhoedd sy’n teimlo’n gryf am unrhyw fater i gasglu cefnogaeth a chyflwyno deiseb i’r Cynulliad, yn bersonol neu ar-lein.

Cafodd y system lwyddiannau amlwg, fel Ysgol Hen Felin yn Ystrad, a gyflwynodd ddeiseb yn erbyn toriadau yn yr arian i glybiau ar ôl ysgol i blant anabl.

Yn fuan ar ôl cyflwyno’r ddeiseb, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai rhagor o arian ar gael ar gyfer y gweithgareddau i blant ag anableddau.

Hefyd, cafodd y penderfyniad i gau Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar ddydd Sadwrn ei wrth-droi yn dilyn deiseb a gyflwynwyd gan aelodau’r cyhoedd a fu’n codi ymwybyddiaeth ynghylch y mater.

Dywedodd Christine Chapman AC, Cadeirydd y Pwyllgor: “Wrth i’r Trydydd Cynulliad ddirwyn i ben, mae’n bwysig ystyried pedair blynedd gyntaf y Pwyllgor Deisebau ar waith.

“Ers 2008 gwelsom dros 200 o ddeisebau a gyflwynwyd o Gymru benbaladr, gyda phob un ohonynt yn dod gan y cyhoedd ar lawr gwlad sydd am weld newid.

“Mae’r deisebau hyn wedi amrywio o dyrbinau gwynt i orsafoedd rheilffordd, i gydraddoldeb ac ysgolion. Mae mor bwysig i bobl bod cyfrwng uniongyrchol ar gael i ddinasyddion ymgysylltu â’r Cynulliad a bu’r system ddeisebau yn hynod lwyddiannus i hwyluso hyn.

“Er na fydd cyflwyno deiseb o anghenrhaid yn arwain at ateb gofynion pawb, mae’n ffordd effeithiol o roi sylw i fater penodol ac mae’r Pwyllgor yn falch o fod wedi bod yn rhan o system sy’n galluogi’r cyhoedd i ddylanwadu ar, a llywio busnes y Cynulliad yn uniongyrchol.

“Bu’n broses o ddysgu, ond buom yn awyddus i ddatblygu a gwella ein dulliau gweithio’n barhaus er mwyn gwneud y broses mor effeithiol a hygyrch ag sy’n bosibl.”