Mae sector y celfyddydau angen mwy o gefnogaeth i fod yn llai dibynnol ar gyllid cyhoeddus, meddai un o bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol

Cyhoeddwyd 22/03/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 26/07/2018

Mae cyrff y celfyddydau angen mwy o gefnogaeth i fod yn llai dibynnol ar gyllid cyhoeddus mewn hinsawdd ariannol anodd, meddai un o bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol.

 

Roedd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu yn cytuno ei bod yn anodd cynhyrchu mathau eraill o gyllid, yn enwedig o'r sector preifat, ac yn arbennig y tu allan i'r prif ardaloedd poblogaeth. Roedd presenoldeb cwmnïau FTSE 100 a chyfoeth cymwynaswyr hefyd yn cael eu hystyried yn ffactorau allweddol sy'n cyfrannu at hyn.

Nododd y Pwyllgor fod Llundain yn enghraifft berffaith, gan ganfod bod y cyllid yno ar gyfer y celfyddydau nad yw'n dod o gyllid cyhoeddus yn £49.64 y person o'i gymharu â £1.64 y person yng ngweddill Lloegr.

Yng Nghymru, mae cyllid awdurdodau lleol ar gyfer Portffolio Celfyddydol Cymru (sefydliadau'r celfyddydau sy'n cael cyllid refeniw blynyddol gan y Cyngor Celfyddydau) wedi gostwng o £11 miliwn yn 2011-12 i £4.5 miliwn yn 2015-16.

Mae Llywodraeth Cymru wedi galw ar y sector diwylliant i wneud mwy ym maes codi arian, marchnata a chynhyrchu incwm. Ond canfu'r Pwyllgor nad oes gan y cyfeiriad polisi hwn y cymorth a'r gwasanaethau angenrheidiol i helpu sefydliadau i wneud hynny, sydd i bob pwrpas yn eu rhoi mewn sefyllfa amhosibl.

"Mae'r celfyddydau'n goleuo ac yn cyfoethogi'n bywydau. Maen nhw'n rhan annatod o'n bywydau, ac yn cynnig manteision helaeth i bob un ohonom," meddai Bethan Sayed AC, Cadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu.

"Ond daeth yn amlwg yn ystod ein hymchwiliad fod sefydliadau'r celfyddydau yng Nghymru yn wynebu heriau go iawn os ydynt am gynhyrchu mwy o refeniw masnachol a chael mwy o incwm o ymddiriedolaethau a sefydliadau. 

"Mae'r ffaith bod sefydliadau'r celfyddydau yng Nghymru yn aml yn fach ac yn bell o'r prif ganolfannau poblogaeth yn ei gwneud yn anodd iddynt godi arian. Nid oes gan Gymru lawer o unigolion cyfoethog iawn a phrin yw'r cwmnïau mawr sydd â'u prif swyddfeydd yma.

"Y sefyllfa eironig yw y gallai fod angen mwy o gefnogaeth gan y sector cyhoeddus ar sefydliadau'r celfyddydau i'w gwneud yn llai dibynnol ar gyllid y sector cyhoeddus. Yn arbennig, mae'n bosibl y bydd angen mwy o gymorth arnynt i ddatblygu'r sgiliau codi arian y mae eu hangen arnynt ac i chwilio am ffynonellau refeniw newydd."

Mae adroddiad y Pwyllgor yn gwneud deg argymhelliad, gan gynnwys: 

  • Dylai Llywodraeth Cymru barhau i roi cymorth ariannol, drwy Celfyddydau a Busnes Cymru neu fel arall, i hyrwyddo a datblygu gwaith partneriaeth rhwng busnes a'r celfyddydau er mwyn sicrhau'r cymorth ariannol gorau posibl i'r celfyddydau gan fusnesau; 

  • Dylai Llywodraeth Cymru gymryd camau i gynyddu ymwybyddiaeth ymddiriedolaethau a sefydliadau yn y DU o ragoriaeth sefydliadau a phrosiectau'r celfyddydau yng Nghymru, a'u hannog i fuddsoddi ynddynt; a

  • Dylai Llywodraeth Cymru gomisiynu gwaith ymchwil er mwyn canfod farchnadoedd rhyngwladol lle gallai fod twf i sefydliadau celfyddydau Cymru, a manteisio arnynt.

Bydd Llywodraeth Cymru yn trafod canfyddiadau'r Pwyllgor.

 


 

Darllen yr adroddiad llawn:

Ymchwiliad i gyllid heblaw cyllid cyhoeddus ar gyfer y celfyddydau (PDF, 672 KB)