Making democracy work in Wales - National Assembly publishes its second annual report.

Cyhoeddwyd 16/07/2009   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Sicrhau democratiaeth i Gymru – y Cynulliad Cenedlaethol yn cyhoeddi ei ail adroddiad blynyddol.

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi gwneud cynnydd mawr tuag at gyflawni ei amcanion strategol ar gyfer y Trydydd Cynulliad.

Dyna’r darlun cadarnhaol a geir yn ei adroddiad blynyddol a gyhoeddir ar wefan y Cynulliad heddiw (16 Gorffennaf).

Mae’r adroddiad yn dangos sut y mae pobl yn cymryd rhan weithredol yn y broses ddemocrataidd yng Nghymru, bod y Cynulliad yn defnyddio’i holl bwerau newydd a bod yn Cynulliad yn dangos esiampl i eraill ei dilyn o ran llywodraethu a chywirdeb.

Dywedodd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas AC, Llywydd y Cynulliad “Ymdrechwyd yn galetach eleni i sicrhau bod pobl yn deall pwy ydym ni a beth rydym yn ei wneud, ac yn bennaf, eu bod yn awyddus i ddod yn ddinasyddion gweithgar a hyddysg,” meddai’r.

“Rhaid dangos bod democratiaeth yn berthnasol i bawb. Ni all datganoli weithio os mai dim ond lleiafrif sy’n ymddiddori ynddo, ac rydym wedi ymrwymo i barhau i sicrhau bod democratiaeth ar gael i bawb.”

Yr uchafbwyntiau eraill yn ystod y cyfnod rhwng mis Ebrill 08 a mis Mawrth 09 oedd pasio’r ddeddf Gymreig gyntaf ers dyddiau’r Brenin Hywel Dda yn y ddegfed ganrif a pharatoadau ar gyfer nodi dengmlwyddiant datganoli. Roedd hyn yn cynnwys cyfres o ymgynghoriadau gan y Llywydd gyda grwpiau a allai fod wedi dod ar draws rhwystrau rhag cymryd rhan yn ein proses ddemocrataidd yn y gorffennol.

Mae’r Cynulliad Cenedlaethol wedi cadw at ei ymrwymiad i lywodraethu da a chywirdeb drwy gomisiynu Panel Annibynnol i adolygu ei system o gymorth ariannol i Aelodau’r Cynulliad. Yn y dyfodol, bydd ymrwymiad y Cynulliad i arwain drwy esiampl o ran ein trefniadau llywodraethu corfforaethol yn parhau.

Mae gan y Cynulliad hefyd ymrwymiad cryf i gydraddoldeb yn ei holl waith. Ym mis Ionawr 2009, cafodd y Cynulliad ei enwi yn un o’r 100 cyflogwr mwyaf hoyw-gyfeillgar yn y DU, yn ôl Mynegai Stonewall Cymru i Gydraddoldeb yn y Gweithle.

Dywedodd Claire Clancy, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad: “Mae hyn yn golygu mai ni yw’r cyflogwr sydd wedi gwella fwyaf yng Nghymru o ran bod yn lle hoyw-gyfeillgar i weithio a’r ail gorau yn y DU.”

“Yn 2009, rydym yn nodi dengmlwyddiant datganoli ac rydym yn bwriadu estyn allan i gynulleidfa ehangach drwy ymgysylltu mwy â’n holl gymunedau – drwy gydweithio’n agos ag Aelodau’r Cynulliad, drwy groesawu ymwelwyr i’r Senedd, ar ein bws newydd ac mewn digwyddiadau yn holl ranbarthau Cymru”.

Cliciwch i weld yr adroddiad yn llawn