Mae menyw o Abertawe wedi cael ei dewis i gynrychioli Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn Senedd Ieuenctid y Gymanwlad yn Canada fis nesaf.
Bydd Laura Elliott, sy'n 28 mlwydd oed ac yn dod o Llethryd, yn ymuno â hyd at 65 o bobl ifanc o bob cwr o'r Gymanwlad yng Nghynulliad Deddfwriaethol British Columbia yn Victoria.
Byddant yn dysgu am sut mae seneddau yn gweithio, yn cymryd rhan mewn cawcysau i ddewis arweinwyr y pleidiau, yn trafod materion allweddol sy'n effeithio ar bobl ifanc ac yn cynnal cynhadledd newyddion ffug.
Cafodd Laura, sy'n gweithio i Brifysgol Abertawe ar hyn o bryd ac sydd wedi ymwneud â Ffermwyr Ifanc Cymru ers 1999, ei dewis o blith 30 o ymgeiswyr gan Gangen y Cynulliad o Gymdeithas Seneddol y Gymanwlad.
"Mae'n fraint wirioneddol i gynrychioli Cymru yn Senedd Ieuenctid y Gymanwlad."
"Mae'n gyfle gwych, ac rwy'n edrych ymlaen at gwrdd â'r cynrychiolwyr eraill i ddysgu cymaint ag y gallaf ganddynt wrth rannu syniadau, eu haddysgu am y Cynulliad Cenedlaethol a hyrwyddo ein gwaith ar draws y Gymanwlad."
Dywedodd Rhun ap Iorwerth AC, Cadeirydd Cymdeithas Seneddol y Gymanwlad yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru:
"Rwyf wrth fy modd bod Laura wedi cael ei dewis ar gyfer y cyfle gwych hwn.
"Mae'n briodol y bydd y Cynulliad yn cael ei gynrychioli gyda balchder yn Senedd Ieuenctid y Gymanwlad eleni a hynny'n digwydd yn fuan ar ôl i'r Llywydd a Chomisiwn y Cynulliad ymrwymo i sefydlu Senedd Ieuenctid i Gymru".
"Rwyf i, a'r Llywydd, Elin Jones AC, yn edrych ymlaen at gwrdd â Laura yn dilyn ei hymweliad i ddysgu am ei phrofiad, sut gwnaeth hi gynrychioli'r Cynulliad a'i werthu, yn ogystal â chlywed am yr arfer gorau yn rhyngwladol a sut gallai hyn lywio ein Senedd Ieuenctid ein hunain yma yng Nghymru a dylanwadu arni.”
Cynhelir wythfed Senedd Ieuenctid y Gymanwlad rhwng 6 a 10 Tachwedd. Caiff ei threfnu gan Gymdeithas Seneddol y Gymanwlad, sy'n cynnwys 17,000 o aelodau o 185 o seneddau a deddfwrfeydd ledled y byd.
Mae Senedd Ieuenctid y Gymanwlad bellach yn ddigwyddiad blynyddol i Gymdeithas Seneddol y Gymanwlad. Caiff ei chynnal mewn gwahanol ranbarth o'r Gymanwlad bob blwyddyn ac mae'n gyfle i bobl ifanc o bob rhan o'r Gymanwlad brofi agweddau ar ddemocratiaeth seneddol a chwrdd â phobl ifanc eraill sydd â diddordeb mewn gwleidyddiaeth a materion cymdeithasol.
Llun cyntaf: © Legislative Assembly of British Columbia