Mesur Arfaethedig y Cynulliad ym maes y Gymraeg – dweud eich dweud

Cyhoeddwyd 17/03/2010   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/11/2014

Mesur Arfaethedig y Cynulliad ym maes y Gymraeg – dweud eich dweud

Cyflwynwyd Mesur Arfaethedig y Gymraeg (Cymru) 2010 gan Lywodraeth Cymru ar 4 Mawrth.

Bydd Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 2 Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn awr yn craffu ar y Mesur ac maent am glywed eich barn chi.

Daw’r gwahoddiad hwn i ddweud eich dweud ar y dydd y bydd y Gweinidog dros Dreftadaeth Alun Ffred Jones AC, yn ymddangos gerbron y pwyllgor i ateb cwestiynau am y Mesur arfaethedig.

Mae’r Mesur Arfaethedig yn cynnwys darpariaeth i sefydlu swydd Comisiynydd y Gymraeg a fydd yn cymryd lle Bwrdd yr Iaith Gymraeg.

Bydd y Comisiynydd yn gyfrifol am hybu a hwyluso defnydd o’r Gymraeg, a hybu cydraddoldeb rhwng y Gymraeg a’r Saesneg. Cefnogir y Comisiynydd gan banel cynghori.

Bydd hyn yn cynnwys y pwer i ymchwilio i honiadau o “atal rhyddid unigolion i ddefnyddio'r Gymraeg gyda'i gilydd”.

Bydd y Mesur arfaethedig hefyd yn gwneud darpariaeth o ran datblygu safonau ymddygiad ynghylch y Gymraeg. Bydd y rhain yn cymryd lle'n raddol y system bresennol o gynlluniau iaith y darperir ar eu cyfer gan Ddeddf 1993. Er bydd modd i unigolion herio dyletswyddau a osodir arnynt mewn perthynas â’r Mesur.

“Mae’r Gymraeg yn iaith i bawb yng Nghymru a dylem wneud popeth posibl i ddiogelu dyfodol yr iaith,” meddai Val Lloyd Ac, Cadeirydd y Pwyllgor.

“Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno ei chynigion i ddarparu mwy o eglurder a chysondeb i siaradwyr Cymraeg o ran y gwasanaethau y gallant ddisgwyl eu derbyn yn Gymraeg ac i leihau’r gofynion ar y sefydliadau hynny sy’n ddarostyngedig i ddyletswyddau ym maes yr iaith”.

“Mae’n bwysig bod cynifer ag sy’n bosibl o bobl yn cael dweud eu dweud i sicrhau bod gennym ddeddfwriaeth effeithiol sy’n diwallu gofynion siaradwyr Cymraeg”.

I weld y Mesur yn llawn a’r Memorandwm Esboniadol ewch i.