Mesur arfaethedig y Gymraeg: nid oes synnwyr yn y symiau, yn ôl adroddiad un o bwyllgorau’r Cynulliad

Cyhoeddwyd 06/08/2010   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Mesur arfaethedig y Gymraeg: nid oes synnwyr yn y symiau, yn ôl adroddiad un o bwyllgorau’r Cynulliad

6 Awst 2010

Dywed un o bwyllgorau’r Cynulliad nad oes digon o wybodaeth ar gael am wir gost cyflwyno Mesur arfaethedig y Gymraeg.

Canfu adroddiad gan Bwyllgor Cyllid Cynulliad Cenedlaethol Cymru bod ffigurau Llywodraeth Cymru yn amwys mewn mannau, a bod ychydig iawn o eglurhad ynghylch sut y bydd rhai agweddau ar y Mesur yn cael eu hariannu, neu hyd yn oed faint fydd eu cost.

Rhagwelir y bydd y mwyafrif helaeth o’r costau yn cael eu talu gan y £13.8 miliwn sydd ar hyn o bryd yn cefnogi Bwrdd yr Iaith Gymraeg.

Byddai’r Bwrdd yn cael ei ddiddymu o dan y Mesur a’i ddisodli gan Gomisiynydd Iaith Gymraeg. Ymhlith dyletswyddau’r Comisiynydd fydd hyrwyddo cydraddoldeb rhwng y Gymraeg a’r Saesneg.

Yn ogystal â swyddogaeth y Comisiynydd, mae’r memorandwm esboniadol sy’n cyd-fynd â’r Mesur arfaethedig yn nodi nifer o newidiadau a gweithgareddau newydd a fydd angen cyllid, ond nid yw’n cynnig dadansoddiad manwl o’u heffaith ar raglenni presennol neu rai yn y dyfodol.

Dywedodd Angela Burns AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid: “Mae’r diffyg gwybodaeth wirioneddol am oblygiadau cost Mesur y Gymraeg yn peri pryder i’r Pwyllgor.

“O ganlyniad i waith ymchwil cyfyngedig a diffyg manylion yn y memorandwm esboniadol, rwy’n ofni nad yw symiau Llywodraeth Cymru’n gwneud synnwyr ar hyn o bryd.

“Mae’r dystiolaeth a gafodd y Pwyllgor gan y sector masnachol yn dangos ei bod yn debygol y byddai angen cyllid sylweddol i ateb gofynion y Mesur arfaethedig, ond mae’r diffyg manylion ar gyfer busnesau yn ei gwneud hi’n anodd darganfod y gwir gost.

“Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau, pan fydd is-deddfwriaeth i bennu safonau yn cael ei osod, ei fod yn sefyll yn gadarn yn wyneb craffu ariannol manwl.”