Mesur Cyntaf y Cynulliad yn dod yn Gyfraith

Cyhoeddwyd 11/07/2008   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Mesur Cyntaf y Cynulliad yn dod yn Gyfraith

Datgelu Arfbais Frenhinol Deddfwriaeth Gymreig

Ddydd Mercher 9 Gorffennaf, daeth Mesur cyntaf y Cynulliad, Mesur Gwneud Iawn am Gamweddau’r GIG (Cymru) 2007, yn gyfraith yng Nghymru, ar ôl iddo gael ei gymeradwyo gan Ei Mawrhydi y Frenhines yn y Cyfrin Gyngor.

Bydd y gyfraith newydd yn ei gwneud yn haws ac yn gyflymach i gleifion hawlio iawndal pan fydd y GIG wedi bod yn esgeulus wrth ddarparu triniaeth.

Hon yw’r ddeddfwriaeth sylfaenol gyntaf i gael ei gwneud gan y Cynulliad Cenedlaethol, y gyfraith gyntaf i gael ei phasio yng Nghymru ers i Hywel Dda lunio cyfreithiau yn y ddegfed ganrif, a’r gyfraith ddwyieithog gyntaf erioed i gael ei phasio ym Mhrydain.

Dywedodd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas AC, Llywydd y Cynulliad: “Mae heddiw’n garreg filltir hanesyddol i Gymru ac i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae pasio’r Mesur Cynulliad cyntaf yn arwydd o’r hyder sydd gan bobl ym mhwerau deddfu newydd Cyfansoddiad Cymru. Yn ogystal â’r Mesur GIG, mae’r Cynulliad hefyd yn ystyried tri Mesur arall – y Mesur Bwyta’n Iach mewn Ysgolion, y Mesur Teithio gan Ddysgwyr a’r Mesur Dysgu a Sgiliau. Mae dau Fesur arall – y Mesur Caeau Chwarae a’r Mesur Ailgylchu hefyd yn aros i gael eu hystyried.”

Pan gaiff Mesurau’r Cynulliad eu cymeradwyo gan Ei Mawrhydi yn y Cyfrin Gyngor, maent yn destun Hawlfraint y Goron, ac mae angen iddynt gael arfbais briodol wrth eu cyhoeddi.

Mae Deddfau Seneddol y DU yn arddangos Arfbais Frenhinol y Deyrnas Unedig, arfbais nad yw’n cynrychioli Cymru ar wahân ar hyn o bryd. Mae Deddfau’r Alban, ar y llaw arall, yn arddangos Arfbais Frenhinol yr Alban.  

Felly, cynhaliwyd trafodaethau rhwng y Cynulliad a’r Coleg Arfbeisiau i ddylunio arfbais frenhinol ag iddi gymeriad Cymreig ac a fyddai’n briodol ar gyfer nodi cymeriad unigryw Mesurau’r Cynulliad fel deddfwriaeth Gymreig.

Cymeradwyodd Ei Mawrhydi ganlyniad y trafodaethau hyn, sef Arfbais Frenhinol Cymru, a fydd yn ymddangos ar holl Fesurau’r Cynulliad. Mae’n seiliedig ar arfbais hen dywysogion Cymru, sy’n dyddio’n ôl i’r drydedd ganrif ar ddeg, ac a ddefnyddir hefyd gan Dywysog Cymru ar ei faner pan fydd yng Nghymru.  

Mae’r Arfbais Frenhinol newydd yn ymddangos ar y Mesur Cynulliad cyntaf i ddod yn gyfraith (Mesur Gwneud Iawn am Gamweddau’r GIG (Cymru) 2008) fel y’i cyhoeddir gan Lyfrfa Ei Mawrhydi ar ôl iddo gael ei gymeradwyo gan Ei Mawrhydi yn y Cyfrin Gyngor.

Manylion llawn am gynnydd Mesurau a Gorchmynion Cymhwysedd Deddfwriaethol

Nodiadau i olygyddion:

  • Rhoddodd Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 y pwerau i’r Cynulliad wneud cyfreithiau, a elwir yn Fesurau, mewn meysydd lle mae ganddo bwerau datganoledig. Gall Mesurau gael eu cynnig gan Lywodraeth Cymru, Aelodau Cynulliad unigol neu bwyllgorau. Cafodd y Mesur gwneud Iawn am Gamweddau’r GIG ei gynnig gan y Llywodraeth.