Mwy o bwerau dros lywodraethu ysgolion – beth yw eich barn chi?

Cyhoeddwyd 28/10/2009   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Mwy o bwerau dros lywodraethu ysgolion – beth yw eich barn chi?

28 Hydref 2009

A ydych chi’n credu y dylai Cynulliad Cenedlaethol Cymru gael mwy o bwerau dros rôl llywodraethwyr ysgol yng Nghymru?

Mae Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 4 y Cynulliad yn galw am dystiolaeth mewn perthynas â’r Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig ynghylch Addysg 2010 sy’n ymwneud â llywodraethu ysgolion, ac mae’r Pwyllgor am gael tystiolaeth gan bawb sydd â diddordeb, gan gynnwys aelodau’r cyhoedd.

Gosodwyd y Gorchymyn arfaethedig gan Lywodraeth Cymru a, mewn datganiad, dywedodd Jane Hutt AC, y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau:

“Roedd y ddadl yn y Cyfarfod Llawn ar 30 Medi 2009 wedi rhoi cyfle i Aelodau drafod adroddiad y Pwyllgor Menter a Dysgu, ‘Swyddogaeth Llywodraethwyr Ysgol’, a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf eleni. Roedd yr adroddiad hwnnw, er yn amlygu’r gwaith ardderchog sydd eisoes yn cael ei wneud gan gyrff llywodraethu, yn amlygu rhai meysydd y gellir eu gwella.

“Roedd y rhain yn cynnwys cefnogaeth a chyngor i lywodraethwyr, hyfforddiant i lywodraethwyr, swyddogaeth y clerc, cyfathrebu a gwybodaeth am y cyd-destun polisi y mae llywodraethwyr yn gweithio oddi mewn iddo, a’r berthynas rhwng effeithiolrwydd llywodraethwyr a pherfformiad ysgol.”

Ar hyn o bryd, nid oes gan y Cynulliad Cenedlaethol bwerau i wneud Mesurau i fynd i’r afael â’r materion hyn. Diben y Gorchymyn arfaethedig yw darparu’r pwerau hynny a rôl Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 4 yw ystyried a yw’r pwerau y mae Llywodraeth Cymru yn gofyn amdanynt yn briodol .  

Gallwch gyflwyno tystiolaeth mewn sawl ffordd wahanol gan gynnwys dros e-bost i  APSLegislationCommitteeNo4@wales.gsi.gov.uk neu’n ysgrifenedig at Owain Roberts, Dirprwy Glerc y Pwyllgor, y Swyddfa Ddeddfwriaeth, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, CF99 1NA.

Am y tro cyntaf, gallwch gymryd rhan mewn trafodaeth fyw am y Gorchymyn arfaethedig drwy dudalen swyddogol Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar Facebook. Chwiliwch am ‘Cynulliad Cenedlaethol Cymru’ neu ‘The National Assembly for Wales’ i weld y fersiwn Saesneg.