Mwy o reolaeth a chapasiti – Y Llywydd yn cyflwyno ei gweledigaeth ar gyfer Cynulliad â mwy o bwerau ariannol

Cyhoeddwyd 20/01/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Mwy o reolaeth a chapasiti – Y Llywydd yn cyflwyno ei gweledigaeth ar gyfer Cynulliad â mwy o bwerau ariannol

20 Ionawr 2014

Ddydd Llun 20 Ionawr, bydd Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, y Fonesig Rosemary Butler AC, yn cyflwyno ei gweledigaeth ar gyfer Cynulliad cryf a fydd yn gallu craffu’n briodol ar y pwerau ariannol arfaethedig newydd.

Mae’r weledigaeth honno yn galw am ddatganoli’r pwer i ganiatáu i’r Cynulliad reoli’r broses o bennu ei gyllideb ei hun a chynyddu nifer yr Aelodau Cynulliad i 80, er mwyn sicrhau y gellir craffu’n briodol ar bwerau trethu a benthyca.

Yn y dystiolaeth y bydd yn ei chyflwyno i’r Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig, sy’n clywed tystiolaeth yn y Cynulliad fel rhan o waith craffu cyn deddfu mewn perthynas â Bil Cymru Drafft, bydd yn dweud:

  • y byddai’n anghyson rhoi pwerau dros drethu a benthyca i’r Cynulliad, ond peidio â rhoi’r rheolaeth gyfreithiol iddo benderfynu ar y broses ar gyfer defnyddio pwerau o’r fath; ac felly;

  • y dylid diwygio’r Bil Cymru Drafft er mwyn rhoi i Gynulliad Cenedlaethol Cymru y rheolaeth gyfreithiol i newid ei broses gyllidebol ei hun.

Bydd hefyd yn pwysleisio’r ffaith, er bod gan y Cynulliad 60 o Aelodau ar hyn o bryd i ddeddfu a dwyn y Llywodraeth i gyfrif, gan na all Gweinidogion y Llywodraeth a deiliaid rhai swyddi eraill fod yn aelodau o Bwyllgorau, dim ond 42 o Aelodau sydd ar gael i gyflawni’r gwaith craffu manwl a wneir gan ein Pwyllgorau. Bydd yn nodi, yn sgîl y cyfrifoldebau ychwanegol a roddir o dan y Bil drafft, y byddai hefyd yn briodol i Fil Cymru gynyddu nifer yr Aelodau Cynulliad i 80.

Bydd y Llywydd yn dweud, “Mae fframwaith gweithdrefnau cyllidebol Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi’i nodi yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006, sef deddf nad oes modd i’r Cynulliad ei diwygio ar hyn o bryd.

“Er y bydd modd newid rhywfaint ar y broses heb newid deddfwriaethol, mae’n bosibl na fydd y weithdrefn hon yn addas i’r diben ar ôl cyflwyno pwerau trethu a benthyca, ac felly bydd yn hanfodol newid y weithdrefn, fel y nodwyd yn Adroddiad cyntaf Comisiwn Silk.

“Mae’r pwerau ariannol ychwanegol hyn i’w croesawu, ond mae’n hanfodol bod Bil Cymru hefyd yn rhoi i’r Cynulliad y rheolaeth a’r capasiti sydd eu hangen i sicrhau y cânt eu defnyddio mewn ffordd effeithiol i bobl Cymru.”

Bydd y Llywydd hefyd yn galw am y canlynol:

  • dylid cyfeirio at y Cynulliad fel Senedd (mae’n adlewyrchu ein pwerau deddfu) a theitl y Llywydd fel ‘Llefarydd’.

  • bod y Bil yn cael ei ddiwygio i’w gwneud yn ofynnol i’r Cynulliad gynnull o fewn 14 diwrnod, yn hytrach 7 diwrnod fel y nodir ar hyn o bryd, ar ôl etholiad y Cynulliad i adlewyrchu’r ffaith nad oes yr un plaid yn debygol o sicrhau mwyafrif, a chaniatáu rhagor o amser i drafod creu clymblaid;

  • bod y Bil yn ailystyried dyletswyddau Ysgrifennydd Gwladol Cymru, gan fod llawer ohonynt yn ymddangos wedi dyddio bellach, ac yn diwygio pwer yr Ysgrifennydd Gwladol mewn perthynas â Chymru fel a ganlyn:

    • Dyletswydd i gymryd rhan yn nhrafodion y Cynulliad fel rhan o’r ymgynghoriad ar raglen lywodraethu Llywodraeth y DU;

  • bod y Bil yn cael gwared ar y cyfyngiadau ar gyfansoddiad Pwyllgorau’r Cynulliad, gan mai’r Cynulliad a ddylai benderfynu hynny drwy ei reolau Sefydlog.