Mwy o ymdrech sydd ei hangen i oresgyn y rhwystrau i gymryd rhan mewn chwaraeon – yn ôl un o bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol

Cyhoeddwyd 13/03/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Mwy o ymdrech sydd ei hangen i oresgyn y rhwystrau i gymryd rhan mewn chwaraeon – yn ôl un o bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol

13 Mawrth 2014

Mae costau, bywyd eisteddog a diffyg dewis yn rhwystrau y mae'n rhaid eu goresgyn er mwyn cael mwy o bobl yng Nghymru yn cymryd rhan mewn chwaraeon, yn ôl un o bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol.

Clywodd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol dystiolaeth hefyd fod rhaid annog pobl i gymryd rhan mewn chwaraeon yn gynnar yn eu bywydau, ond bod llawer o bobl yn diflasu yn ifanc oherwydd eu profiadau o addysg gorfforol yn yr ysgol.

)

Er enghraifft, clywodd y Pwyllgor fod merched yn gyffredinol yn awyddus iawn i chwarae chwaraeon fel hoci a phêl-rwyd rhwng 7 a 9 oed, ond eu bod yn tueddu i golli diddordeb oddeutu 10 i 11 oed. Ymysg y rhesymau am hyn y mae pryderon am ddelwedd y corff a phrinder y gweithgareddau a fyddai orau gan rai, megis gwaith ffitrwydd neu ddawns.

O ran y gymuned LGBT, mae’r rhwystrau yn cynnwys ofnau ynghylch homoffobia, biffobia a thrawsffobia. Tynnodd grwpiau Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig sylw at broblemau o ran gwahaniaethu, a phroblemau gydag offer ac amgylcheddau anaddas i fenywod o rai crefyddau.

"Mae rhybuddion am y ffaith bod cyfraddau gordewdra plentyndod yn codi a bod achosion o ddiabetes ar gynnydd wedi cael sylw mawr yn y newyddion yn ddiweddar, ac mae'r dystiolaeth sy'n cysylltu'r cyflyrau hyn â bywyd mwy eisteddog yn glir," dywedodd Christine Chapman AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol.

"Bydd newid yr agwedd hon yn gofyn am newid diwylliannol yn y ffordd y mae pobl yn dewis byw, ac un o'r prif ffyrdd y gallwn wneud hynny yw trwy ehangu eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth o'r opsiynau sydd ar gael iddynt.

"Ffordd arall yw sicrhau bod anogaeth a phrofiadau cadarnhaol o ran gweithgareddau corfforol yn dechrau yn gynnar, yn yr oedran ysgol. Felly, credwn ei bod yn hanfodol bod Lywodraeth Cymru yn ystyried a ddylid gwneud addysg gorfforol yn bwnc craidd yn y Cwricwlwm Cymreig.

"Rydym hefyd yn awyddus i weld Llywodraeth Cymru yn gwneud mwy i annog menywod a chymunedau Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig i chwarae chwaraeon.

"Wrth i awdurdodau lleol deimlo effaith y toriadau yn y gyllideb, credwn fod yr angen i sicrhau mynediad i gyfleusterau hamdden fforddiadwy ar draws Cymru yn fwy nag erioed."

Mae’r Pwyllgor yn gwneud 12 o argymhellion yn ei adroddiad, gan gynnwys:

  • Bod Llywodraeth Cymru yn asesu effaith y gostyngiadau yng nghyllidebau awdurdodau lleol ar gyfer gwasanaethau chwaraeon a hamdden ar fynediad a fforddiadwyedd;

  • Bod Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag awdurdodau lleol i nodi cyfleoedd i gynyddu a gwella mynediad i gyfleusterau hamdden ar draws Cymru; a,

  • Bod Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod gwaith pellach yn cael ei wneud i ganfod ffyrdd o annog merched i gymryd rhan mewn chwaraeon. Dylai hyn gynnwys ymchwil i'r mathau o chwaraeon neu weithgareddau sy'n apelio'n benodol at ferched, a'r ffactorau sy'n effeithio ar eu cyfranogiad.

Adroddiad: Lefelau cyfranogiad mewn chwaraeon

Mae rhagor o wybodaeth am yr ymchwiliad i gyfranogiad mewn chwaraeon.