Myfyrwyr chweched dosbarth yn cael dweud eu dweud mewn cynhadledd yn y Cynulliad
14 Chwefror 2014
Bydd dros 100 o fyfyrwyr chweched dosbarth o Gymru benbaladr yn cael profiad ymarferol o fywyd yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru yn y gynhadledd Llywodraeth a Gwleidyddiaeth flynyddol, a gynhelir ar 19 a 20 Chwefror.
Mae’r digwyddiad deuddydd yn cynnwys cyfres o gyflwyniadau a gweithdai sydd wedi’u cynllunio i addysgu myfyrwyr am waith y Cynulliad ac i roi cyfle iddynt roi eu barn ar faterion sy’n bwysig iddynt.
Mae’r siaradwyr yn y gynhadledd eleni yn cynnwys Carwyn Jones AC, Prif Weinidog Cymru a Paul Silk, Cadeirydd y Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru. Mae’r Comisiwn wrthi’n adolygu’r pwerau sydd wedi’u datganoli i Gymru ar hyn o bryd.
Y Fonesig Rosemary Butler AC, Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol, sydd wedi sicrhau bod pobl ifanc wrth galon ymdrech y Cynulliad i gynyddu’r ymgysylltiad â gwaith y Cynulliad, sy’n cynnal y gynhadledd.
Dywedodd Y Fonesig Rosemary: “Ein her fwyaf yng Nghymru heddiw yw ymgysylltu â’n pobl ifanc.
“Bydd datganoli yma am byth, ac rydym am weld datganoli yn darparu ar gyfer pawb yng Nghymru. Rhan ganolog o’r broses honno yw cael pobl iau i ymgysylltu’n llawn â’r gwaith y mae fy nghydweithwyr a minnau yn ymgymryd ag ef yma yn y Senedd, er mwyn llywio’r broses ddemocrataidd yng Nghymru’n ddoeth ar gyfer y dyfodol.
“Mae mentrau fel y gynhadledd hon yn ffynhonnell syniadau ar gyfer aelodau etholedig democratiaeth ifanc fel ein democratiaeth ni, i ymgymryd â’u rolau gyda pherspectif newydd y genhedlaeth iau, ac yn ogystal maent yn ein galluogi ni i osod y sylfeini datganoli ar gyfer y cenedlaethau nesaf.
“Fel rhan o’r broses honno, bu’r Cynulliad yn cynnal ymgynghoriad cenedlaethol â phobl ifanc ‘Dy Gynulliad di - dy lais di, dy ffordd di’ ynglyn â sut y dylai Cynulliad Cenedlaethol Cymru ymgysylltu â phobl ifanc.
“Rydyn ni am i bobl ifanc ddweud wrthym beth sy’n bwysig iddyn nhw, beth maen nhw’n ei ddisgwyl gennym ni a beth allwn ni ei wneud i sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed.
“Cysylltodd Gwasanaeth Addysg ac Allgymorth y Cynulliad â 4,116 o bobl ifanc yn ystod yr ymgynghoriad y tymor diwethaf. Mae’r ymgynghoriad wedi dod i ben bellach, ond rydym am glywed barn pobl ifanc o hyd.”
Bydd y myfyrwyr yn dysgu hefyd am system ddeisebau’r Cynulliad Cenedlaethol ac yn cael cyfle i drafod syniadau ar gyfer cyflwyno deisebau, cyn i un syniad gael ei dderbyn i’w drafod gan y Pwyllgor Deisebau.
Bydd un ar ddeg o ysgolion a cholegau ledled Cymru yn cymryd rhan yn y digwyddiad, a gaiff ei gynnal am ddau ddiwrnod yn Siambr Hywel, cyn siambr ddadlau’r Cynulliad Cenedlaethol, sydd bellach wedi’i neilltuo i ysgolion a cholegau i gynnal trafodaethau.
Bydd y gynhadledd yn cynnwys myfyrwyr o Gaerdydd, Gwent, Merthyr Tudful, Aberafan, Trefynwy, yr Wyddgrug, Glyn Ebwy, Pontypwl a Chaernarfon.
Bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn gosod lluniau a fideos o’r gynhadledd ar y wefan, gan gynnwys cyfweliadau â’r rhai sy’n annerch, panelwyr a myfyrwyr. Beth am ddilyn @cynulliadcymru neu #gpcwales i ddarganfod beth sy’n digwydd.
Dylai unrhyw un sydd am gael rhagor o wybodaeth am ‘Dy Gynulliad di - dy lais di, dy ffordd di’ fynd i wefan www.dygynulliad.org.