Myfyrwyr rhyngwladol i helpu Aelodau’r Cynulliad i ddathlu Diwrnod y Gymanwlad

Cyhoeddwyd 13/03/2007   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Myfyrwyr rhyngwladol i helpu Aelodau’r Cynulliad i ddathlu Diwrnod y Gymanwlad

Ddydd Mawrth 13 Mawrth, bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru’n cynnal seminar ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol i nodi Diwrnod y Gymanwlad. Bydd myfyrwyr o wledydd y Gymanwlad, sy’n astudio yng Nghymru, yn mynychu gweithgaredd arbennig a gynhelir yn y Siambr Fach yn Swyddfa’r Cynulliad. Bydd 20 o siaradwyr o wledydd yn cynnwys Malawi, Papwa Gini Newydd, India, Cyprus a Chanada yn gwneud cyflwyniadau byr ar faterion sy’n effeithio ar eu gwledydd hwy yn y Gymanwlad i garfan drawsbleidiol o Aelodau Cynulliad yn cynnwys Alun Cairns, Mike German, John Griffiths a Leanne Wood, a fydd yna’n ymateb i’r myfyrwyr. Dywedodd Alun Cairns AC, cadeirydd Pwyllgor Gweithredol Cangen Cymru Cymdeithas Seneddol y Gymanwlad: ‘Yr wyf yn edrych ymlaen at ddathlu Diwrnod y Gymanwlad yn y Cynulliad. Mae’r seminar yn rhoi cyfle i fyfyrwyr o bob rhan o’r Gymanwlad, sydd wedi dewis byw ac astudio yng Nghymru, ryngweithio gydag Aelodau’r Cynulliad a chynyddu eu dealltwriaeth o’r Cynulliad.’ Yn dilyn derbynwest amser cinio yn yr Oriel, caiff y myfyrwyr eu tywys o amgylch y Senedd a gwylio’r cyfarfod llawn o oriel y cyhoedd. Nodyn i olygyddion: Dethlir Diwrnod y Gymanwlad yn flynyddol ar yr ail ddydd Llun ym mis Mawrth. Serch hynny, bydd y Cynulliad yn cynnal ei weithgareddau ar y dydd Mawrth er mwyn i’r rheiny sy’n cymryd rhan fedru gweld trafodion y Cynulliad. Gwybodaeth bellach am Ddiwrnod y Gymanwlad